blog

5 Llyfr y mae angen i bob Gofalydd Maeth ei Ddarllen

5 llyfr y mae angen i bob gofalydd maeth ei ddarllen ar gyder diwrnod llyfrau

Dyma ddetholiad o lyfrau sydd wedi cael eu hargymell gan ein staff Maethu Cymru Caerffili a gofalyddion maeth presennol. Mae rhai yn straeon gan blant mewn gofal neu ofalyddion maeth, mae eraill yn cynnic cyngor ac arweiniad ar sut i gefnogi plant sy’n derbyn gofal. Y naill ffordd neu’r llall, maen nhw’n rhoi cipolwg gwych ar faethu.

Terrified: The Heart-breaking True Story of a Girl Nobody Loved and the Woman Who Saved Her gan Angela Hart

Mae Angela Hart wedi bod yn ofalydd maeth yn y DU ers dros ddau ddegawd ac mae wedi maethu dros hanner cant o blant. Gyda hyfforddiant fel gofalydd arbenigol ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau ag anghenion cymhleth, mae cyfres o lyfrau gan Hart yn croniclo ei phrofiad fel rhiant maeth. Mae ‘Terrified’ yn adrodd hanes merch fach a ddaeth at Angela ar ôl blynyddoedd o gam-drin emosiynol, a brwydr Angela i’w helpu i ddod o hyd i ryddid o’i gorffennol.

Thrown Away Child gan Louise Allen

Mae’r cofiant hwn gan blentyn sy’n derbyn gofal a drodd yn ofalyddmaeth yn archwilio’r tywyllwch a’r goleuni’n gyssylltiedig â gofal maeth. Yn ddioddefwr cartref maeth camdriniol, mae Louise Allen yn penderfynu unioni’r camweddau a wnaed iddi pan ddaw’n ofalydd maeth ei hun ac yn dechrau ymgyrchu am wasanaethau gofal maeth gwell. Ysbrydolodd llwyddiant y llyfr Allen i barhau i ysgrifennu am ofal maeth yn ei chyfres Thrown Away Children.

Nobody’s Child gan Kate Adie

Wedi’i hysbrydoli gan ei phrofiad fel plentyn mabwysiedig, mae’r newyddiadurwraig a chyflwynydd y BBC Kate Adie yn rhannu straeon oedolion a fagwyd yn blant a gafodd eu ‘gadael’. Y canlyniad yw casgliad teimladwy o safbwyntiau ar yr hyn y mae’n ei olygu i fod yn blentyn, a’r hyn y mae’n ei olygu i berthyn.

Why Can’t My Child Behave? Empathic Parenting Strategies that Work for Adoptive and Foster Families gan Dr Amber Elliott


Mae’r llyfr hwn yn rhoi cyngor ymarferol ar ofalu am blant â thrawma datblygiadol. Mae wedi’i ysgrifennu fel canllaw cyfeirio sy’n hawdd ei ddefnyddio ar gyfer teuluoedd mabwysiadol a maeth, ac mae’n canolbwyntio ar heriau ymddygiadol cyffredin. Gan fod ymddygiad yn ffordd allweddol o gyfathrebu ar gyfer plant â phroblemau ymlyniad, mae’r llyfr hwn yn ased gwerthfawr i unrhyw ofalydd maeth.

A Guide to Attachment, How to Create a Positive Future, a Looking After Looked After Children gan Sir John Timpson CBE


Bu Syr Timpson (o gwmni torri allweddi/esgidiau Timpson) a’i wraig yn ofalyddion maeth ac yn eiriolwyr gofal maeth am flynyddoedd lawer. Mae ei dri llyfr wedi eu hanelu at ddarparu cymorth a gwybodaeth i deuluoedd maeth ac maen nhw ar gael am ddim o unrhyw siop Timpson, Max Spielmann neu Johnsons the Cleaners.

Story Time

Stories From Our Carers

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch