blog

Beth i’w ddisgwyl wrth faethu plentyn yn ei arddegau

Beth i’w ddisgwyl wrth faethu plentyn yn ei arddegau

Mae maethu pobl ifanc yn eu harddegau yn fath o ofal maeth sy’n rhoi boddhad mawr ac sydd, yn aml, yn cael ei anwybyddu. Mae gwir angen yng Nghymru am deuluoedd i faethu pobl ifanc yn eu harddegau, gyda bron i hanner yr holl blant sy’n derbyn gofal rhwng 11 a 18 oed.

Yn gyffredinol, mae pobl yn credu bod pobl ifanc yn eu harddegau yn fwy o her i rieni na phlant iau. Fodd bynnag, byddai llawer o ofalyddion maeth profiadol yn dadlau ei fod, mewn gwirionedd, yn brofiad gwahanol yn hytrach nag un mwy heriol.

Er enghraifft, yn aml, gall gofalu am berson ifanc yn ei arddegau fod yn haws na gofalu am blant iau, gan eu bod, fel arfer, mewn addysg amser llawn, yn fwy annibynnol ac yn gallu gofalu amdanyn nhw eu hunain ar lefel fwy ymarferol.

Wrth i bobl ifanc yn eu harddegau ddysgu datblygu annibyniaeth a gwneud penderfyniadau anoddach wrth iddyn nhw bontio i fod yn oedolion, gall cartref maeth sefydlog eu helpu nhw. Ym Maethu Cymru Caerffili, rydyn ni wrth ein bodd â’r canlyniadau cadarnhaol sy’n ysbrydoli ein pobl ifanc sy’n derbyn gofal.

Felly, rydyn ni wedi gofyn i un o’n gofalyddion maeth ni o Maethu Cymru Caerffili rannu pam maen nhw’n dewis maethu plentyn yn ei arddegau gyda’i awdurdod lleol.

Stori Janine

Pam wnaethoch chi ddewis maethu pobl ifanc yn eu harddegau?

Mae bywyd i berson ifanc yn ei arddegau mor fregus ac anodd ond gyda’r help, y cyngor a’r ffiniau cywir, gallwch chi adeiladu perthnasoedd hyfryd. Ar hyn o bryd, rwy’n helpu 3 oedolyn ifanc sydd wedi tyfu i fyny gyda mi.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sy’n maethu plentyn yn ei arddegau?

Yn gynnar, anogais i’r person ifanc i gyfathrebu’n agored ar bob pwnc a adeiladodd y sylfaen ar gyfer blynyddoedd yr arddegau.  Gallwn ni siarad yn agored, trafod materion a helpu ein gilydd drwy gyfnodau anodd. Rydw i’n ystyried cam datblygu, nid oedran, y person ifanc wrth sgwrsio. 

Pam ydych chi’n hoffi maethu pobl ifanc yn eu harddegau?

Rydyn ni’n gwylio ffilmiau gyda’n gilydd, yn mynd i siopa, yn mwynhau cerddoriaeth a gigs ac yn mynd am fwyd, sy’n wahanol iawn i faethu plant iau. Mae eu gweld nhw yn datblygu i fod yn oedolion ifanc yn rhoi boddhad mawr.

Maen nhw’n dod â heriau ond mae rhoi parch a dewisiadau iddyn nhw drwy gydol eu harddegau nhw, caniatáu iddyn nhw wneud camgymeriadau a’u harwain nhw drwyddo yn fy llenwi i â llawenydd (ar ôl y ffaith).

Rydw i’n credu bod gwneud newidiadau ar eu cyfer nhw yn caniatáu iddyn nhw wneud newidiadau i chi, i’w helpu nhw i setlo, i deimlo eu bod ni’n cael eu cefnogi a’u bod nhw’n perthyn yn elwa’n ddiweddarach.

Pam maethu gyda Maethu Cymru Caerffili

Mae digon o resymau i ddod yn ofalydd maeth yng Nghaerffili. Yn y pen draw, mae dewis Maethu Cymru yn ymwneud â rhoi hapusrwydd a lles er budd gorau plant lleol yn gyntaf. Mae gweithio gyda’n gilydd i’w gwneud nhw’n hapus, yn ein gwneud ni’n hapus yn gyfnewid.

Cysylltwch â’n tîm a chymryd y cam cyntaf heddiw –

0800 587 5664 Tecstiwch ‘foster’ i 78866

Maethu@caerffili.gov.uk

Story Time

Stories From Our Carers

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch