trosglwyddo i ni

dewiswch faethu cymru caerffili

Mae Maethu Cymru Caerffili yn rhan o rwydwaith cenedlaethol o wasanaethau maethu 22 Awdurdod Lleol Cymru, pob un yn gweithio gyda’i gilydd tuag at yr un nod. Rydyn ni’n canolbwyntio ar bobl. Ein pwrpas yw cefnogi a grymuso gofalwyr maeth a chreu’r dyfodol disgleiriaf posibl ar gyfer plant lleol – dim gwneud elw.

Os ydych chi’n ofalwr maeth eisoes ond ddim yn maethu fel rhan o’ch Awdurdod Lleol, gallwch drosglwyddo atom ni.

transfer to Foster Wales

manteision maethu gydag awdurdod lleol

Cyfrifoldeb yr Awdurdod Lleol yw pob plentyn sydd angen gofalwr maeth. Felly mae’n gwneud synnwyr i weithio gyda gwasanaeth yr Awdurdod Lleol, Maethu Cymru.

Rydyn ni’n angerddol dros helpu plant lleol i fyw bywydau hapus, diogel a sefydlog, a dyna bwrpas ein cenhadaeth. Rydyn ni wedi ein lleoli yn y gymuned, felly mae gennyn ni ddealltwriaeth fanwl o’r heriau a allai godi, a’r gwasanaethau cymorth lleol sydd wrth law.

Rydyn ni’n gweithredu fel tîm, gan ddarparu cefnogaeth a hyfforddiant i’ch. helpu chi i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl ifanc.

transfer to Foster Wales

yr hyn yr ydym yn ei gynnig ym maethu cymru caerffili

  • Lwfansau ariannol hael. Er enghraifft, fel gofalydd maeth yng Nghaerffili, byddech yn derbyn o leiaf £657 yr wythnos pe baech yn maethu 2 o blant 3 a 10 oed. Darllenwch fwy am dâl i ofalwyr maeth yma
  • Cyfarwyddyd, cefnogaeth a hyfforddiant gan Fy Nhîm Cefnogol (Mhyst) – dewis amgen effeithiol i ofal preswyl i blant sydd mewn gofal ag anghenion cymhleth iawn
  • Cefnogaeth arbennig i blant sy’n profi unrhyw anawsterau mewn addysg
  • Cymorth a mentora gan ofalyddion maeth profiadol drwy gynllun ‘cyfaill’ a’n grŵp cymdeithas gofalyddion maeth
  • Amrywiaeth o adnoddau dysgu gan gynnwys e-ddysgu, podlediadau, deunyddiau darllen a gweithdai
  • Cerdyn MAX – mynediad am ddim ac â gostyngiad i atyniadau ledled y DU

Darllenwch fwy am gefnogaeth a gwobrau yma.

transfer to Foster Wales

"Oherwydd y cyfnodau hir rhwng lleoliadau, penderfynais roi’r gorau i weithio gydag asiantaeth a gwneud cais yn uniongyrchol gydag awdurdod lleol."

-Mike, gofalwr maeth awdurdod lleol

sut i drosglwyddo atom ni

Mae’r broses o drosglwyddo o’ch asiantaeth maethu bresennol i’r Awdurdod Lleol yn rhwydd.

Yn ein sgwrs gyntaf, byddwn yn trafod yn agored sut mae’r broses yn mynd i weithio i chi. Gan eich bod eisoes yn y byd maethu, bydd y broses yn un benodol i’ch amgylchiadau chi.

Rydym am wybod sut allwn ni eich cefnogi yn y ffordd orau yn y dyfodol, nodi unrhyw anghenion a sicrhau ein bod yn eich adnabod yn drylwyr ar gyfer paru yn y dyfodol, felly ym mhob un o’r camau isod, bydd y profiad yn unigryw i chi.

I wybod mwy, lawrlwythwch ein canllaw trosglwyddo sydd ar gael isod.

cael eich canllaw trosglwyddo

Cliciwch ar y botwm isod i dderbyn canllaw ‘Trosglwyddo atom Ni’ sy’n cynnwys mwy o wybodaeth am fanteision trosglwyddo atom ni, sut mae’r broses yn gweithio a pham ddylech chi drosglwyddo at Faethu Cymru Caerffili.

gadewch i ni siarad am drosglwyddo i faethu cymru caerffili

Uned 3, Parc Busnes Woodfieldside, Ffordd Penmaen, Blackwood, NP12 2DG
Call 0800 587 5664 Text ‘foster’ to 78866

Cursor pointer icon Phone ringing icon Open envelope icon