blog

Helpu eich plentyn chi i ymdopi â gorbryder am ddychwelyd i’r ysgol.

Helpu eich plentyn chi i ymdopi â gorbryder am ddychwelyd i’r ysgol.

Mae dychwelyd i’r ysgol yn gallu bod yn straen i blant a theuluoedd, yn enwedig os bydd y flwyddyn newydd yn dod â newidiadau mawr fel newid ysgol neu gael mwy nag un athro. Mae plant sy’n meddwl a dysgu’n wahanol yn gallu bod yn arbennig o bryderus am gadw i fyny neu ffitio i mewn.

Darparon ni’r erthygl hon i’ch helpu chi i ddeall gorbryder am ddychwelyd i’r ysgol. Os yw eich plentyn chi yn pryderu neu’n poeni cyn dechrau’r ysgol, rydyn ni’n gobeithio bod yr awgrymiadau hyn yn gallu helpu.

Rhesymau posibl dros bryder neu straen plant

Mae pob plentyn yn wahanol, a does dim esboniad syml pam mae rhai’n pryderu mwy am fynd yn ôl i’r ysgol nag eraill. Gadewch i ni ymchwilio beth sy’n gallu achosi teimladau pryderus eich plentyn chi am yr ysgol:

1. Ofn yr anhysbys

Mae hyn yn arbennig o gyffredin ymhlith plant sy’n mynd i’r ysgol am y tro cyntaf. Ond mae’n gallu cynnwys hefyd y rhai sy’n trosglwyddo o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd, er enghraifft. Mae plant yn gallu teimlo’n bryderus am adeilad newydd, ardal ysgol newydd, neu gael mwy nag un athro.

2. Cwrdd â ffrindiau newydd

Os yw eich plentyn chi yn bryderus neu’n fewnblyg yn gyffredinol, efallai byddan nhw’n profi pryderon am gwrdd â ffrindiau newydd, yn poeni na fyddan nhw’n mynd ymlaen ag eraill, neu na fyddan nhw’n adnabod unrhyw un.

3. Bwlio

Efallai bydd plentyn sydd wedi profi bwlio yn y gorffennol yn poeni am ddychwelyd i’r lle y digwyddodd yr aflonyddu. Mae’r plant yn cysylltu’r ysgol â chael eu bwlio, ac yn ddealladwy, mae hyn yn achosi straen a phryder. Mae’n bwysig mynd at wraidd y broblem, achos mae bwlio yn gallu effeithio’n ddifrifol ar iechyd meddwl eich plentyn chi a bywyd fel oedolyn.

4. Pryderon am y llwyth gwaith a’u galluoedd

Mae plant sy’n mynd i’r ysgol am y tro cyntaf neu’n newid ysgol yn gallu teimlo’n arbennig o bryderus am eu sgiliau ac eu gallu nhw i wneud yn dda yn yr ysgol.

Mae’n bwysig nodi bod plentyn sy’n profi ffurfiau eraill o orbryder yn fwy tebygol o ddatblygu gorbryder am ysgol.

Arwyddion gorbryder am ddychwelyd i’r ysgol mewn plant

Er bod gorbryder ynghylch â dychwelyd i’r ysgol yn gyffredin, ddylech chi ddim ei anwybyddu. Am y rheswm hwn, mae rhaid i chi allu nodi pan fydd eich plentyn chi yn cael trafferth gyda straen a gorbryder. Edrychwch am yr arwyddion, sef:

  • Glynu wrth bobl yn fwy nag arfer
  • Bod yn fwy aflonydd
  • Cwyno am boenau yn y bola
  • Arddangos newidiadau mewn arferion cysgu a bwyta
  • Meddyliau neu bryderon negyddol
  • Dod yn drist neu’n grac yn fwy cyflym
  • Cael sbeliau o grio anesboniadwy
  • Cael trafferth canolbwyntio

Sut ydych chi’n gallu helpu?

Os ydych chi’n sylwi ar unrhyw un o’r newidiadau ymddygiad uchod, ceisiwch fod yn amyneddgar ac yn sylwgar. Efallai bydd angen amser ar eich plentyn chi. Efallai bydd plant hŷn eisiau siarad am eu pryderon nhw, felly, byddwch yno iddyn nhw.

Ceisiwch gadw’ch pen ac osgoi mynd yn grac neu’n emosiynol os yw eich plentyn chi’n cael ffrwydradau crac neu stranciau. Mae’r rhain yn ymddygiad sy’n mynnu sylw. Mae’n well eu hanwybyddu nhw, ac yna canmol eich plentyn chi ar ôl iddo llonyddu. Wedyn, gofynnwch pryd fyddai’n amser da i drafod pam roedd eich plentyn chi mor emosiynol.

Yn aml, y ffordd orau o fynd i’r afael â straen a gorbryder yw annog eich plentyn chi i siarad. Gwrandewch heb farn a chadarnhau bod ei deimladau’n hollol naturiol.

Gofynnwch gwestiynau iddo fel, “A oes unrhyw beth arbennig am y flwyddyn ysgol hon sy’n eich poeni chi?”, a chynnig eich cefnogaeth chi. Yn debyg i  oedolion, yn aml mae angen i blant fynegi eu teimladau nhw er mwyn teimlo’n well.

Ffordd wych arall o leddfu rhywfaint o orbryder eich plentyn chi yw cael eich cartref chi’n barod ar gyfer y cyfnod pontio. Anogwch eich plentyn chi i’ch helpu chi cynllunio a threfnu ei fan gwaith cartref a chynllunio cinio ysgol o flaen llaw. Mae hyn yn gallu ei helpu i deimlo bod mwy o reolaeth ganddo a lleddfu rhai o’i deimladau pryderus.

Dyma bethau eraill gallech chi wneud:

  • Dechrau newid i fodd yr ysgol

Peidiwch ag agos tan y funud olaf i osod yr amserlenni ac arferion priodol, oherwydd gallai hyn gwaethygu gorbryder eich plentyn chi. Dechreuwch ymarfer arferion bore a nos o flaen amser. Mae hynny’n cynnwys amser deffro ar gyfer yr ysgol, amser gwely ac amser bwyd.

  • Ewch allan i’r awyr agored

Ar wahân i fod yn fuddiol i iechyd corfforol pawb, mae gweithgareddau yn yr awyr agored wedi cael eu profi i frwydro yn erbyn straen a gorbryder hefyd. Ewch allan a mwynhau diwedd yr haf gyda’ch gilydd. Mae taith gerdded syml yn y parc neu chwarae pêl gyda’ch gilydd yn gallu helpu’ch plentyn chi fod yn bresennol yn y foment a pheidio â gorfeddwl am y diwrnod cyntaf yn yr ysgol sy’n dynesu.

  • Rhowch ddewisiadau i’ch plentyn chi

Er mwyn rhoi synnwyr o reolaeth i’ch plentyn chi a magu cyffro am yr ysgol, gadewch i’ch plentyn chi ddewis beth i’w wisgo ar ei ddiwrnod cyntaf yr ysgol. Paciwch fyrbryd arbennig o’i ddewis, neu adael i’ch plentyn chi ddewis hoff bryd i swper y noson honno.

  • Trafodwch atgofion da o flynyddoedd blaenorol

Amlygwch yr eiliadau cadarnhaol hyn a’u defnyddio nhw i atgoffa’ch plentyn chi fod yr ysgol yn gallu bod yn werth chweil ac yn hwyl.

  • Rhowch wybod iddyn nhw eich bod chi’n credu ynddyn nhw

Mae taflunio ymdeimlad o hyder a dealltwriaeth yn gallu ymddangos yn beth bach, ond pan mae plant yn gwybod eich bod chi’n gwybod beth maen nhw’n ei brofi, mae’n gallu gwneud gwahaniaeth mawr. Rhowch wybod iddyn nhw eich bod chi’n credu y byddan nhw’n llwyddiannus yn yr ysgol.

  • Dangoswch iddyn nhw eich bod chi yma iddyn nhw

Dewch o hyd i amser pan mae eich plentyn chi’n weddol lonydd a heb fod yn brysur. Siaradwch gyda nhw am eu pryderon ac ofnau nhw, a dywedwch eich bod chi yno iddyn nhw er mwyn helpu datrys eu problemau nhw.

  • Helpwch nhw i siarad am eu hanghenion nhw

Weithiau mae plant yn cael trafferth wrth fynegi eu teimladau nhw ac mae hynny’n iawn. Wrth ofyn cwestiynau a gadael iddyn nhw siarad am eu hanghenion nhw heb farnu, rydych chi’n helpu eich plentyn chi i gael ymdeimlad o reolaeth a hyder sydd ei angen er mwyn brwydro yn erbyn y gorbryder a’r straen.

Os yw gorbryder eich plentyn chi’n parhau am fwy na phythefnos ac yn amharu ar ei fywyd bob dydd, gallai fod yn arwydd o anhwylder gorbryder. Siaradwch â meddyg eich plentyn chi am eich pryderon chi.

Story Time

Stories From Our Carers

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch