Daeth Kelly a’i gŵr Alun yn ofalwyr maeth gyda Maethu Cymru Caerffili 6 mlynedd yn ôl. Dim ond 29 oed oedd Kelly pan ddechreuon nhw ar eu taith faethu. Mae ganddyn nhw ddau o blant eu hunain ac maen nhw’n maethu plant 11 oed a hŷn yn bennaf.
Siaradon ni â Kelly am eu profiadau ac roedden ni eisiau gwybod rhagor am pam wnaethon nhw benderfynu maethu a beth mae’n ei olygu iddyn nhw.
“Roeddwn i wastad yn gwybod bod maethu’n beth da.”
Mae rhieni Kelly wedi bod yn ofalwyr maeth cyhyd ag y gall hi gofio. Roedd hyn yn ysbrydoliaeth iddi hi, ac mae hi’n cofio meddwl bob amser ei fod yn beth da i’w wneud.
“Roedd e bob amser yn rhywbeth roeddwn i’n meddwl, chi’n gwybod, efallai y bydden ni’n dda yn gwneud hynny. Ond rydw i’n meddwl mai’r trobwynt i ni oedd pan wnaethon ni symud tŷ, ac roedd gennym ni ystafell wely ychwanegol ac roedd e’n gwneud synnwyr.”
Aeth y broses yn ddidrafferth iddyn nhw, a chofiodd Kelly eu bod nhw wedi cael eu lleoliad cyntaf ychydig fisoedd yn ddiweddarach.
Roedd plant Kelly yn 10 a 4 oed ar adeg cymeradwyo eu lleoliad cyntaf, felly eu dewis nhw oedd maethu plant o oedran tebyg iddyn nhw.
“Roedden ni eisiau cyfuno’r oedrannau, a doedden ni ddim eisiau dechrau eto gyda babi oherwydd doedden ni ddim yn meddwl byddai hynny’n ffitio i mewn ag arferion a bywydau ein plant.”
Meddai wedyn, “Dim ond babanod oedd fy rhieni wedi gofalu amdanyn nhw, felly dydw i erioed wedi gweld unrhyw un yn hŷn, ac fe aethon ni am rywun hŷn.
“Doeddwn i ddim yn gwybod popeth oherwydd rydw i wedi dysgu bod cael ‘rhieni sy’n maethu’ yn beth hollol wahanol i ‘chi’n maethu’”.
Nid oes dau brofiad o faethu yr un fath. Mae stori pob gofalwr maeth yn wahanol, ac nid oes dau blentyn yr un fath. I lawer o ofalwyr, dyma beth sy’n gwneud maethu mor apelgar ac yn ei gadw’n ddiddorol – dydych chi byth yn gwybod pa her fydd yn ei roi i chi a beth fydd hyn yn eich dysgu chi.
“Mae’n rhaid i chi allu cysylltu.”
Mae gan y rhan fwyaf o bobl sgiliau a nodweddion a fyddai’n eu gwneud nhw’n ofalwyr maeth gwych yn barod. Nid yw rhai ohonyn nhw’n gwybod bod amynedd, empathi, neu’r gallu i drefnu pethau eisoes yn ddigon.
Dywedodd Kelly fod maethu wedi dysgu hi bod yn rhaid iddi fod yn bwyllog a deallgar a gallu gweld pethau o wahanol safbwyntiau yn gyflym. Dywedodd wedyn,
“Mae wedi dysgu fi bod yn rhaid i chi fod yn drefnus oherwydd mae gennych chi bethau fel amser teulu, cyfarfodydd ysgol, apwyntiadau deintydd. Weithiau, mae’n rhaid i chi allu meddwl yn gyflym, yn y bôn.
“Weithiau, bydd rhaid i chi fod yn gysur pan fydden nhw eisiau crio. Weithiau, bydd rhaid i chi fod, a dydw i ddim yn golygu hyn yn llythrennol, yn fag dyrnu.
“Os ydyn nhw eisiau rhyddhau eu dicter ar lafar, mae’n rhaid i chi allu ei gymryd a gallu camu i ffwrdd. Rydw i wedi dysgu ei bod yn gweithio i gymryd cam i ffwrdd a dod yn ôl i’r sefyllfa ychydig yn hwyrach unwaith bydden nhw wedi llonyddu.
“Mae maethu wedi dysgu llawer o wersi i fi ar sut i gyfathrebu a gwrando achos mae llawer o bobl yn gyflym i neidio i mewn a rhoi cyngor. Mae’n rhaid i chi allu gwrando yn gyntaf cyn i chi allu rhoi cyngor.”
Mae maethu’n broses ac yn gromlin ddysgu ddiddiwedd. Mae’n eich gwobrwyo chi ac mae’n eich newid chi. Dywedodd Kelly,
“Rydw i bendant yn meddwl bod maethu wedi fy newid i ac rydw i’n meddwl nad yw hynny am y gwaethaf, rydw i’n meddwl ei fod am y gorau. Rydw i’n meddwl ei fod wedi fy ngwneud i’n berson gwell 100%. Mae Kelly o 6 mlynedd yn ôl a Kelly nawr yn ddau berson hollol wahanol.”
“Rydw i’n ei garu’n llwyr.”
Pan ofynnwyd iddi hi am yr her fwyaf o fod yn ofalwr maeth, dywedodd Kelly,
“Mae rhai o’r plant hyn wedi cyflwyno problemau i fi nad oeddwn i hyd yn oed yn gwybod oedd yn bodoli. Ni chafodd fy mhlant erioed unrhyw un o’r problemau hyn. Dydw i erioed wedi cael profiad gyda hyn o’r blaen, felly mae wedi fy nysgu i yn bendant i gymryd cam yn ôl a meddwl am bethau cyn i fi weithredu.”
Mae’n gallu bod yn heriol ar adegau, ond mae maethu’n dangos bod datrysiad i bron bob problem. Mae Maethu Cymru Caerffili yn darparu cymorth gwych, a dywedodd Kelly,
“Pe bawn i’n dod ar draws rhywbeth newydd nad oeddwn i erioed wedi ei brofi, byddwn i’n mynd at fy ngweithiwr cyswllt am gymorth. Mae hi’n anhygoel; bydd hi’n rhoi cymorth i fi ar unrhyw adeg o’r dydd. Hefyd, mae’r swyddog recriwtio yn anhygoel. Bydd hi’n rhoi cymorth i fi a hi yw halen y ddaear.
“Rydw i hefyd yn defnyddio’r rhyngrwyd yn aml. Bydda i’n ceisio dod o hyd i gymaint o wybodaeth a galla i. Rydw i’n caru dysgu a dod i wybod pethau newydd!”
Mae Maethu Cymru Caerffili hefyd yn darparu cyfleoedd dysgu i ofalwyr maeth er mwyn iddyn nhw allu datblygu dealltwriaeth a gwybodaeth am faterion penodol. I Kelly, mae’r hyfforddiant ar faterion penodol yn ymwneud ag ymddygiadau pobl ifanc wedi bod yn ddefnyddiol.
“Roedd un person ifanc yn ei arddegau a arhosodd gyda ni yn hoffi mynd allan ar y penwythnos a dod yn ôl adref ychydig yn feddw. Cofrestrais fy hun ar gwrs ynghylch alcohol i geisio cael yr wybodaeth ddiweddaraf ar yr hyfforddiant. Yna, gallen nhw ddod ata i gyda rhywbeth, ac roeddwn i’n gwybod sut i gynghori, beth i fod yn wyliadwrus amdano, neu sut i ymateb.”
Pwysigrwydd hunanofal.
Mae gofalwyr maeth yn aml yn profi llawer o emosiynau, maen nhw’n wynebu llawer o heriau ac, yn aml, mae eu ffordd o fyw yn brysur. Yng nghanol hyn i gyd, maen nhw’n aml yn anghofio gofalu amdanyn nhw eu hunain a’u lles eu hunain.
Siaradodd Kelly am bwysigrwydd hunanfyfyrio:
“Bob nos pan rydw i’n mynd i’r gwely, rydw i’n eistedd ac rydw i’n meddwl beth aeth yn dda heddiw, beth na aeth yn dda heddiw mewn unrhyw sefyllfa. A allwn i fod wedi ei drin ychydig yn wahanol? Ac yna rydw i’n codi’r bore wedyn ac yn mynd eto. Ac os ydw i’n meddwl fy mod i wedi gwneud rhywbeth yn anghywir y diwrnod cynt, rydw i’n ei gywiro.
“Mae’n debyg, i fi hefyd, i ychydig bach o hunanofal oherwydd galla i wirio fy hun hefyd. Yn ystod yr amser tawel hwn, rydw i’n cael profiad therapiwtig iawn, iawn. Dyma beth sy’n gweithio i fi’n bersonol.”
Mae hunanofal yn gymorth rydych chi’n ei roi i chi’ch hun. Weithiau, gall gofalu am eraill wneud i chi anghofio am eich anghenion eich hun. Ychwanegodd Kelly,
“Dim ond tua saith mis yn ôl wnes i ddarganfod hyn pan, am y tro cyntaf, roeddwn i’n teimlo fy mod i wedi difa fy hun ychydig. Sylweddolais nad oeddwn i wedi gwneud llawer i fi fy hun mewn gwirionedd.
“Mae rhai pobl yn mynd am dro, yn cwrdd â ffrind, neu hyd yn oed yn cael diwrnod sba. Rydw i’n gwrando ar synau myfyrdod. Bydda i’n rhoi fy nghlustffonau i mewn ac yn gorwedd ar y gwely yn gwrando ar synau am efallai 15 munud. Mae’n tynnu fi yn ôl i lawr. Doeddwn i erioed yn gwybod ei bwysigrwydd nes i fi ddechrau ei wneud.”
“Eu trin nhw’n gyfartal, nid fel petaech chi’n uwch na nhw.”
Er ei fod yn her o bryd i’w gilydd, dywedodd Kelly ei bod hi wrth ei bodd. Mae hi’n hoffi cadw’n brysur. Mae’n ymwneud â dod o hyd i’ch ffordd chi o faethu. Bydd un person yn hoffi i’r tŷ fod yn dawel, ond mae Kelly wrth ei bodd yn gweld ei thŷ yn cael ei lenwi â phobl a chwerthin. Meddai hi, “Rydw i’n caru’r gwallgofrwydd (gan chwerthin).”
“Pan maen nhw i gyd yn dod i mewn o’r ysgol ac maen nhw i gyd yn eistedd wrth y bwrdd ac maen nhw i gyd yn sgwrsio am eu diwrnod, i fi mae’n normal. Galla i ddim ymdopi â thawelwch. Rydw i wrth fy modd â hynny!”
Mae maethu yn rhoi egni ac ysgogiad i Kelly godi yn y bore. Ar hyn o bryd, mae hi a’i gŵr yn maethu tri pherson ifanc yn eu harddegau, ynghyd â magu dau o blant biolegol. Pan ofynnwyd iddi hi am faethu pobl ifanc yn eu harddegau, dywedodd Kelly,
“Rydw i’n meddwl bod gan bobl ganfyddiad negyddol am bobl ifanc yn eu harddegau mewn gofal maeth oherwydd y cyfryngau. Y rheswm am hynny yw mai dim ond y straeon arswyd maen nhw erioed wedi’u clywed. Mewn gwirionedd, mae’n debyg bod 100 o straeon hyfryd ac efallai 5 stori arswyd.
“Rydyn ni wedi cael llawer o bobl ifanc yn eu harddegau yn ein cartref. Byddwn i’n dweud mae’n debyg mai pobl ifanc yn eu harddegau yw’r lleoliadau mwyaf hwyliog. Mewn sawl ffordd, maen nhw hefyd yn llawer haws. Does dim rhaid i chi godi yn y nos a’u bwydo nhw fel sydd rhaid i chi gyda babi, a does gennych chi ddim rhywun yn gysylltiedig â chi 24/7 fel sydd gennych chi gyda babi chwaith.
“Rydw i bob amser wedi cael profiadau cadarnhaol. Wrth gwrs, mae heriau wedi bod. Does neb yn berffaith ond rydw i’n meddwl gyda phobl ifanc yn eu harddegau, mae angen i chi fod yn fath arbennig, maen nhw angen math gwahanol o ofal.”
Mae Kelly yn credu gall pobl iau wneud gwell gofalwyr maeth ar gyfer plant yn eu harddegau. Nid ydyn nhw’n ymateb yn dda iawn i reolau llym a chael rhywun yn dweud wrthyn nhw beth i’w wneud.
“Mae angen i chi geisio dod o hyd i dir cyffredin gyda’r plant hyn, eu clywed nhw, a’u trin nhw’n gyfartal, nid fel petaech chi’n uwch na nhw. Rydw i’n meddwl efallai mai dyna pam bod fy oedran iau i’n helpu. Rydw i’n dal i gofio pan oeddwn i’n eu hoedran nhw ac rydw i’n dal i gofio sut roeddwn i’n teimlo yn 16-17 oed.
“Ond mae hefyd yn bwysig iawn bod yn rhiant iddyn nhw, yn ogystal â ffrind, ac roedden nhw’n fy mharchu i bob amser.
“Rydw i wedi cael profiadau cadarnhaol gyda fy holl bobl ifanc yn eu harddegau. Hynny yw, maen nhw’n dal i anfon negeseuon testun ata i bob dydd i ddweud ‘helo’, neu i gael cyngor.”
Ym marn Kelly, bydd person sydd ddim yn gallu cyfaddawdu a phlygu rheolau ychydig yn cael amser caled yn cysylltu â phobl ifanc yn eu harddegau.
“Rydw i’n gallu deall pwysigrwydd bod eisiau mynd ar eich ffôn gyda’ch ffrindiau. Rydw i’n gallu deall pwysigrwydd aros ar eich traed ychydig yn hwyrach weithiau i wylio’r rhaglen ddogfen newydd hon ar Netflix. Dydw i ddim yn mynd i ddweud, ‘Diffodd ffonau, diffodd teledu am 9.00pm, dim trafodaeth’. Dydy pethau ddim yn gweithio fel hyn mwyach. Yn fwy tebygol, os ydych chi’n gwylio sioe dda iawn ar Netflix, rydw i eisiau ei gwylio hi gyda chi! (gan chwerthin).
“Os ydych chi’n ceisio taflu rheolau ar bobl ifanc yn eu harddegau, byddan nhw’n dechrau dal dig yn eich erbyn chi. Dyna’r ffordd gyflymaf i chwalu lleoliadau.”
Mae Kelly’n credu bod llwyddiant ym maes maethu pobl ifanc yn eu harddegau yn ddibynnol ar greu amgylchedd o gydraddoldeb a gonestrwydd.
“Doeddwn i erioed wedi cael problemau gydag unrhyw un yn mynd allan o’r tŷ neu’n rhedeg i ffwrdd. Efallai oherwydd fy mod i bob amser yn ceisio dod i mewn ar yr ongl honno o fod yn gyfartal, ac yn agored i wrando.”
Mae hi ac Alun yn ceisio annog pobl ifanc i siarad â nhw am eu problemau a chael sgyrsiau agored am bynciau sy’n cael eu hystyried yn aml yn dabŵ.
Mae maethu pobl ifanc yn eu harddegau yn eich cadw chi’n gyfredol ac yn gyfoes â’r byd. Fe wnaeth Kelly chwerthin ar y slang amrywiol gan bobl ifanc mae hi wedi ei ddysgu dros y blynyddoedd ac mae hi’n cyfaddef bod bod o gwmpas pobl ifanc yn eu harddegau yn gwneud iddi hi deimlo’n ifanc ei hysbryd.
“Weithiau pan rydyn ni’n chwerthin, rydw i’n teimlo fel fy mod i’n eu hoedran nhw. Mae fy ngŵr yn 42 oed ac mae’n ifanc iawn ei ysbryd, felly rydw i’n meddwl ei fod e’n cymysgu’n hawdd gyda phobl ifanc yn eu harddegau hefyd. Pan rydyn ni i gyd gyda’n gilydd gartref ac rydyn ni’n jocan, mae’n ysgafngalon a rhwydd iawn.
“Rydw i eisiau iddyn nhw deimlo fel eu bod nhw bob amser yn gallu dod atom ni pan maen nhw’n ansicr am rywbeth ac yn teimlo’n gyfforddus yn cael sgyrsiau anodd hefyd.”
“Maen nhw’n dod atom ni wedi’u hanafu, ond pan maen nhw’n gadael, rydyn ni’n gwaedu.”
Gwobr fwyaf maethu yw gweld pobl ifanc yn trawsnewid. Dywedodd Kelly ei bod hi am eu gweld nhw’n symud ymlaen fel pobl well na phan symudon nhw i mewn yn gyntaf. Mae hi’n teimlo mai’r peth gorau am faethu yw gallu anfon y bobl ifanc hyn i’r byd yn teimlo eu bod nhw’n cael eu caru ac yn ddiogel.
“Rydw i eisiau iddyn nhw deimlo’n ddiogel yma, cael amser i chwerthin, teimlo hoffter ac rydw i eisiau iddyn nhw gael atgofion da.
“Mae angen sefydlogrwydd ac arweiniad ar blant 11 oed a hŷn. Rydw i bob amser yn galw’r oedran hwn yn ‘flynyddoedd mowldio’. Dyna pryd gallwn ni gael yr effaith fwyaf – rydyn ni’n eu dysgu nhw beth sy’n iawn a beth sy’n anghywir ac ychydig bach o barch a hefyd ychydig o bellter o’r byd o’u cwmpas nhw.”
“Moment mewn maethu sydd wedi aros gyda fi.”
Thema Pythefnos Gofal Maeth eleni yw Momentau Maethu. Gofynnais i Kelly a ydy hi’n gallu cofio unrhyw foment benodol o’i thaith faethu sydd wedi aros gyda hi. Dywedodd stori wrtha i sy’n crynhoi cymaint am faethu.
“Roedd un moment gyda fy ieuengaf; roedd yn bedair oed pan ddaeth atom ni. Corwynt llwyr. Doeddwn i erioed wedi cwrdd â phlentyn tebyg iddo fe. Doedd e ddim yn dda yn yr ysgol. Doedd e ddim yn dda gartref. Ar adegau, roedd wedi gwneud i fi gwestiynu a ddylwn i barhau i faethu – roedd e’n blentyn anodd, ac roedd yn gynnar yn fy nhaith faethu.
“Doedd e ddim yn gallu ysgrifennu. Doedd e ddim yn gallu gwneud unrhyw beth. Efallai tua naw mis ar ôl iddo ddod atom ni, roeddwn i’n gweithio gydag ef ar ddal pen. Nid ysgrifennu, dim ond dal pen.
“Yna, un diwrnod, daeth i mewn gyda sgrap bach o bapur roedd e wedi’i wneud yn yr ysgol. Ac roedd e wedi ysgrifennu “mam” ar ben ei hun ac wedi tynnu llun calon i fi.
“Roedd yn un o’r troeon cyntaf erioed iddo fe ysgrifennu, a dyw e ddim fel arfer yn fy ngalw i’n “mam”. Mae’n dal i fy ngalw’n Kelly hyd heddiw, ond yn amlwg mae’n cydnabod mai fi yw’r fam yn y tŷ.
“Roedd hynny bum mlynedd yn ôl. Mae dal gen i’r darn hwnnw o bapur yn fy mhwrs. Fydda i byth yn taflu’r darn hwn o bapur i ffwrdd. Dyma fy hoff beth yn y byd ac rydw i’n meddwl ei fod e wedi dysgu llawer o wersi i fi, yn enwedig am sut i fod yn bwyllog, yn ddigynnwrf, a sut i weithio gyda’r broses. Mae’n rhaid i chi roi amser i mewn, ac mae’n rhaid i chi roi amser iddyn nhw allu mynd i rywle. Mae’n 10 oed nawr ac mae wedi cyrraedd oedran darllen o 12 oed.
“Dyma’r momentau hynny lle rydych chi’n meddwl dydyn nhw ddim wedi dod yn bell iawn, ond yna rydych chi’n sylweddoli eu bod nhw wedi dod mor bell…”
“Gadewch fi yn fy lle hapus.”
Pan ofynnwyd iddi hi am ei chynlluniau ar gyfer y dyfodol, dywedodd Kelly yn ddiamau na fydd hi’n rhoi’r gorau i faethu. Mae’n teimlo mor ymroddedig i helpu pobl ifanc yng Nghaerffili, mae hi’n gallu rhagweld ei hun yn maethu nes iddi hi ymddeol.
“Fe ges i gymaint o bethau da yn dod allan o hyn a dydw i ddim yn meddwl byddwn i’n rhoi’r gorau iddi. Rydw i am wneud hyn nes i fi ymddeol. Mae maethu yn rhoi egni a chymhelliant i fi mewn bywyd.
“Mae rhai pobl yn hoffi cwyno a bod yn negyddol am rai pethau wrth faethu, ac rydw i’n dweud, ‘gadewch fi yn fy lle hapus’, rydw i wrth fy modd!”
“Mae gwneud ymholiad yn anorfodol.”
Os ydych chi’n meddwl am faethu, cysylltwch â thîm maethu eich awdurdod lleol, Maethu Cymru Caerffili. Dyna’r cam cyntaf a’r cam hawsaf gallwch chi ei gymryd.
Bydd y tîm yn gallu siarad â chi am faethu, ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi. Nid oes unrhyw rwymedigaeth i fynd ymlaen i wneud cais, ond byddwch chi’n gwybod a yw maethu yn cyd-fynd â’ch ffordd o fyw a’ch amgylchiadau chi.
Dywedodd Kelly,
“Mae’n bwysig iawn cael gwybodaeth gan eich awdurdod lleol oherwydd mae ganddyn nhw i gyd wahanol ffyrdd o wneud pethau. Mae siarad â Maethu Cymru Caerffili yn rhoi darlun mwy manwl i chi o’r hyn sy’n digwydd ym maes maethu eich awdurdod lleol.
“Gallwch chi hefyd ddod i un o’r digwyddiadau recriwtio, bydd rhai ohonom ni yno, gofalwyr maeth go iawn, felly gallwch chi ofyn cwestiynau a darganfod a yw’n addas i chi. Pwy well i ofyn na rhywun sy’n ei wneud!”.
Ydych chi’n meddwl am ddod yn ofalwr maeth fel Kelly ac Alun?
Os ydych chi’n byw yng Nghymru, ewch i wefan Maethu Cymru i ddod o hyd i’r holl wybodaeth a chysylltu â gwasanaeth eich awdurdod lleol.
Yn byw yng Nghaerffili, Cymru? Anfonwch neges neu ffonio ni ar 0800 587 5664 (neu tecstiwch ‘maethu’ to 78866) a byddwn ni’n cysylltu â chi cyn gynted ag y gallwn ni.