blog

Y Daith Maethu

Mae pawb yn haeddu lle i alw’n gartref. Lle i deimlo’n ddiogel, cael eu caru a chael cyfle i dyfu. Mae maethu yn darparu gofal teuluol i blant a phobl ifanc na allan nhw fyw gyda’u rhieni nhw neu aelodau eraill o’r teulu.

Gall hyn fod yn unrhyw beth o arhosiad dros nos neu egwyl fer, i leoliadau mwy tymor hir. Nid yw unrhyw ddau blentyn yr un peth ac nid yw’r gofal sydd ei angen arnyn nhw ychwaith.

Felly beth yw Egwyliau Byr?

Weithiau, rydyn ni i gyd angen egwyl. Mae seibiant ac egwyliau byr yn rhoi cyfle i blant gael rhywfaint o le iddyn nhw eu hunain oddi wrth eu teuluoedd nhw.

Gall egwyliau byr neu ofal seibiant olygu gadael i blentyn aros dros nos, ar benwythnosau neu am gwpl o wythnosau, yn aml yn rheolaidd.

Mae darparwyr egwyliau byr yn dod yn estyniad i deulu maethu’r plentyn, gan gynnig gwyliau o fywyd bob dydd a darparu cymorth pan fydd ei angen fwyaf.

Felly, gadewch i ni glywed gan un o’n gofalyddion maeth seibiant ein hunain o Gaerffili, wrth iddi fyfyrio ar ei thaith maethu hyd yn hyn.

Fy Nhaith fel Gofalydd Maeth Egwyl Fer.

Mae fy ngŵr a minnau wedi bod yn ofalyddion maeth seibiant ers bron i 7 mlynedd, a rhaid i mi ddweud mai hon yw’r swydd fwyaf werth chweil i mi ei gwneud erioed.

Mae gen i gefndir mewn Gwasanaethau Cymdeithasol, ond roedd hynny’n gweithio gyda phobl hŷn ac, ynddo’i hun, roedd hynny’n werth chweil, ond rwy’n credu fy mod i bellach wedi dod o hyd i’m lle hapus i.

Mae gan y plant rwy’n gofalu amdanyn nhw anawsterau dysgu a lefel uchel o anghenion meddygol, a gall fod yn rhwystredig ac yn peri pryder weithiau, ond maen nhw hefyd yn gwmni gwych, yn gariadus ac yn ddoniol.

Rydw i wedi eu gwylio nhw’n tyfu o blant 1 oed a phlant bach gyda sgiliau llafar a chymdeithasol cyfyngedig i bobl ifanc 18 oed sy’n gallu siarad â mi am bynciau y mae ganddyn nhw ddiddordeb ynddyn nhw, gan wneud paned eu hunain (gyda goruchwyliaeth) ac ymolchi a gwisgo’n annibynnol.

Rydw i’n dal i gwrdd â’r plant a oedd yn fy ngofal i ac, ar ôl i mi eu gweld nhw, rydw i’n eistedd yn rheolaidd ac yn myfyrio ar sut oedden nhw pan ddaethon nhw i mewn i’m bywyd i am y tro cyntaf a faint y maen nhw wedi datblygu ac aeddfedu yn gorfforol ac yn feddyliol.

Mae’n swydd a all fod yn anodd yn gorfforol ac yn feddyliol ond mae’n swydd nad ydw i erioed wedi difaru ei gwneud.

Story Time

Stories From Our Carers

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch