ffyrdd o faethu

mathau o faethu

mathau o ofal maeth

Er bod pob plentyn yn wahanol, ac felly angen gofal unigryw, mae’n deg dweud mai’r hyn maen nhw i gyd yn ei haeddu yw cartref diogel gyda theulu cariadus. Drwy ddarparu’r sylfaen hon, gall plant fwynhau bywyd i’r eithaf, mynegi eu hunain a ffynnu wrth iddyn nhw dyfu.

Gall maethu olygu aros dros nos, seibiant byr neu rywbeth mwy hirdymor. Gyda Maethu Cymru Caerffili mae nifer o fathau o ofal maeth. Felly, mae’n ymwneud llai â chyfyngiadau amser a mwy am yr effaith gadarnhaol y mae’r amser hwnnw’n ei chael ar bawb sy’n gysylltiedig.

gofal maeth tymor byr

Gall cyfleoedd gofal maeth tymor byr Maethu Cymru Caerffili fod yn ddiwrnod, yn fis, yn flwyddyn neu’n unrhyw beth yn y canol! Mae’n golygu bod y cynlluniau ar gyfer plentyn yn dal i gael eu hystyried, a’n bod ni’n dal i geisio gweld sut gallai’r dyfodol fod.

Fel gofalydd maeth tymor byr, rydyn ni’n eich helpu i fod yno i blentyn tra byddwn yn sicrhau’r ‘tymor hir’ (sydd weithiau’n cael ei alw’n sefydlogrwydd). Mae hyn yn golygu bod yn bresennol ac yn gefnogol pryd bynnag y mae arnyn nhw eich angen chi, a’u helpu wedyn i gymryd eu camau nesaf: at eu teulu, at deulu maeth arall neu i gael eu mabwysiadu.

I ni a’r plant rydyn ni’n gweithio gyda nhw, dim faint o amser sy’n penderfynu pa effaith rydych chi’n ei chael. Os oes gennych chi galon gynnes, meddwl agored a’r parodrwydd i rannu’r rhain â phlant maeth sydd angen hynny, bydd y manteision i chi a nhw’n amhrisiadwy.

gofal maeth tymor hir

Mae gofal maeth tymor hir yn cynrychioli cartref newydd gyda theulu gwahanol i’r plant hynny nad ydyn nhw’n gallu byw gartref. Mae’n newid mawr i fywyd unrhyw un, felly rydyn ni’n gwneud yn siŵr bod pob plentyn yn cadw mewn cysylltiad â’r gymuned a’r bobl maen nhw’n eu hadnabod orau – pan fydd hyn yn iawn iddyn nhw.

Mae gofal maeth tymor hir Caerffili yn golygu paru ystyrlon, gan gysylltu’r plentyn maeth iawn â’r rhiant maeth iawn am gyhyd ag y bydd eich angen chi arno. Mae’n ymwneud â darparu amgylchedd diogel, lle gall plant ddatblygu perthnasoedd newydd cadarnhaol a dysgu bod yn nhw eu hunain. I blentyn, mae’n golygu teulu maeth sefydlog am oes.

mathau arbenigol o ofal maeth

Mae maethu tymor byr a thymor hir yn cwmpasu pob math o ofal maeth, gan gynnwys rhai mathau mwy arbenigol, y mae angen math penodol o gymeradwyaeth ar eu cyfer. Mae’r rhain yn cynnwys…

seibiant byr

Weithiau mae angen seibiant ar bob un ohonon ni. Dyna yw nod seibiant byr – lle mae plant yn treulio rhywfaint o amser yn wahanol i’r arfer er mwyn cael profiadau newydd. 

Gall seibiant byr (sydd weithiau’n cael ei alw’n ‘ofal cymorth’) olygu gofalu am blentyn dros nos, yn ystod y dydd neu ar benwythnosau. Mae’n ymwneud â chynnig profiadau a chyfleoedd newydd mor rheolaidd neu afreolaidd ag sydd eu hangen ar y plentyn a’i deulu. Fel gofalydd seibiant byr, rydych chi’n rhan o’r teulu estynedig hwn ac yn rhoi cyfle i ysgrifennu pennod nesaf eu bywydau. Ac yn cael digon o hwyl ar hyd y ffordd, wrth gwrs!

rhiant a phlentyn

Gyda lleoliadau rhiant a phlentyn, rydych chi’n rhannu eich profiad magu plant eich hun â rhywun sydd eisiau cynnig y cariad a’r gofal gorau posibl i’w blentyn ei hun. Efallai nad oes gan y rhiant y profiad sydd ei angen arno i wneud popeth ar ei ben ei hun, a dyna lle gallwch chi helpu. 

Rydych chi’n meithrin y genhedlaeth nesaf er mwyn i unigolion y genhedlaeth nesaf allu gwneud yr un peth. Mae hyn i gyd yn ymwneud ag arwain rhieni i wella, yn bersonol ac ar ran eu plentyn.

gofal therapiwtig – Fy Nhîm Cymorth (MyST)

Wrth faethu plant yn ardal Caerffili, gallwch ddewis magu’r rheini sydd ag anghenion emosiynol neu ymddygiadol a allai fod yn fwy cymhleth. Anghenion sydd weithiau’n gofyn am fath gwahanol o ofal.

Dyna lle mae gofal therapiwtig yn gallu helpu. Mae gofalyddion maeth therapiwtig yn cael rhagor o gymorth, i wneud yn siŵr bod eu plant maeth yn cael popeth sydd ei angen arnyn nhw i ddysgu, llwyddo a mwynhau holl hwyl plentyndod llawn cariad.

Dyma clip byr o rai o’n gofalwyr maeth. Gael gwybod mwy: https://www.mysupportteam.org.uk/cy/maethu-therapiwtig/

llety â chymorth

Mae gadael cartref yn brofiad brawychus a chyffrous i unrhyw berson ifanc. Pan fydd person ifanc yn gadael gofal maeth neu os nad oes ganddo deulu i'w gefnogi, gall hyn fod yn fwy heriol.

Gallech helpu person ifanc 16-21 oed drwy ddarparu pont rhwng gofal a byw’n annibynnol. Byddech yn cefnogi’r person ifanc mewn ffordd debyg i letywr. Ni fyddech yn cael eich cofrestru fel gofalwr maeth a byddwch yn cael eich asesu’n wahanol.

Byddech yn cynnig ystafell wely sbâr iddo ond hefyd yn ei helpu i fynychu addysg a chwilio am swydd neu hyfforddiant a chyda sgiliau bywyd fel coginio a chyllidebu. Mae llety â chymorth yn ffordd wych o ddechrau gofalu am bobl ifanc, ochr yn ochr â’ch ymrwymiadau eraill.

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch