blog

Sut i oroesi’r Nadolig fel gofalwr maeth

Gall y Nadolig fod yn anodd i blant sy’n derbyn gofal, a gall pethau sy’n ymddangos yn ddiniwed ysgogi rhai emosiynau ac ymddygiadau penodol. Fodd bynnag, mae gofalwyr maeth wedi dangos, er y gall maethu fod yn heriol ar adegau, ei fod bob amser yn werth ei wneud yn y pen draw.

Dyma ganllaw i oroesi’r Nadolig gan ofalwr maeth yng Nghaerffili.

Peidiwch â disgwyl i’r Nadolig fod fel Nadolig arferol…

Fy Nadolig cyntaf, roeddwn i’n disgwyl i’r plant fod wrth eu bodd. Ychydig a feddyliwn i y byddai’n un o’r Nadoligau mwyaf anodd erioed i mi. Ni allai’r plant ymdopi, boed hynny am fod y Nadolig yn adeg pan fyddan nhw’n gweld eisiau eu teuluoedd biolegol neu am ein bod o bosibl yn dathlu’r Nadolig yn wahanol i’r hyn roedd yn arferol iddyn nhw, neu am nad oedden nhw’n gyfarwydd â chael llawer o anrhegion yn eu haros ar fore Nadolig.

Siaradwch â’r plant ymlaen llaw

Un awgrym da sydd gen i yw y dylech siarad â’r plant ymlaen llaw. Gofynnwch iddyn nhw sut roedden nhw’n dathlu’r Nadolig gyda’u teuluoedd biolegol, gofynnwch iddyn nhw a oes pethau penodol neu draddodiadau penodol yr hoffen nhw eu gwneud a gofynnwch iddyn nhw a allech CHI fod yn rhan ohonyn nhw ai peidio. Efallai na fyddan nhw am i chi gymryd rhan yn uniongyrchol ac y byddai’n well ganddyn nhw pe baech ond yn eu helpu i wneud y trefniadau.., efallai ymhen ychydig o flynyddoedd y byddan nhw’n teimlo’n fwy cartrefol. Esboniwch eich traddodiadau eich hun hefyd. Byddan nhw’n fwy tebygol o deimlo eu bod yn rhan ohonyn nhw os byddan nhw’n gwybod sut neu pryd y dechreuodd y traddodiad.

Gwnewch eich traddodiad eich hun!

Gwnewch draddodiad newydd sbon sy’n cynnwys pob aelod newydd o’ch teulu, gall pawb gyfrannu a byddan nhw bob amser yn cofio o ble y tarddodd ac yn teimlo eu bod yn aelod arbennig a gwerthfawr o’r teulu.

“Bod yn anniolchgar”

Byddwch yn barod am rywfaint o “anniolchgarwch”. Yn anffodus, rwyf wedi gweld nad yw rhai plant yn gwybod sut i dderbyn teganau hyfryd newydd a bod eu synhwyrau’n cael eu gorlethu. Maen nhw’n aml yn teimlo nad ydyn nhw’n eu haeddu.Gall hyn arwain at sefyllfa lle maen nhw’n torri’r teganau newydd hyn ac yn dinistrio teganau plant eraill. Mae’n dorcalonnus gweld hynny, yn enwedig os byddwch wedi treulio misoedd diwethaf yn dewis pob anrheg yn ofalus iddyn nhw ac wedi bod yn meddwl tybed sut ymateb a gaf pan fyddan nhw’n agor yr anrheg ond wedyn yn ei gweld yn cael ei thorri’n deilchion.

Cydnabod traddodiadau’r gorffennol

Dylech bob amser eu cydnabod pan fyddan nhw’n dweud rhywbeth fel “gyda mam a dad roedden ni’n arfer gwneud hyn” a cheisiwch ehangu’r sgwrs ychydig a gadael iddyn nhw wybod ei bod yn iawn teimlo ychydig yn drist am eu bod yn gweld eisiau eu teuluoedd biolegol, yn enwedig dros y Nadolig.

Cofiwch chi ei fwynhau hefyd. Weithiau byddwch yn teimlo fel crio, weithiau byddwch yn teimlo eich bod ar ben eich tennyn, ond anghofia i fyth yr olwg ar eu hwynebau pan aethon ni i weld Siôn Corn, a’r cyffro wrth daenu llwch ceirw Llychlyn yn yr ardd ffrynt ar Noswyl Nadolig yn eu pyjamas, a’r llawenydd mawr pan agorwch ddrws yr ystafell fyw ar fore Nadolig a nhw’n dechrau sgrechian! Rwyf wedi rhannu’r eiliadau hyn gyda nhw, a hwythe gyda minne, ac mae’n gwneud y cyfan mor hudolus.

Ac os metha popeth arall…... Agorwch botelaid fach o rywbeth!

Story Time

Stories From Our Carers

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch