blog

Sut mae maethu tymor byr yn gallu helpu plant lleol

Plentyndod yw’r bennod bwysicaf yn ein bywydau ni.  Mae’n ein siapio ac yn ein paratoi ni ar gyfer bywyd fel oedolion.

Am beth ydych chi’n ei feddwl pan fyddwch chi’n meddwl am eich plentyndod chi? Efallai y byddwch chi’n cofio profiadau o agosatrwydd a magwraeth.  Neu efallai, yn lle hynny, eich bod chi’n gwybod sut beth yw teimlo ofn, a diffyg cymorth ac arweiniad? Mae gofalwyr maeth yn gallu creu bywyd newydd i bobl ifanc sydd wedi profi trawma neu esgeulustod.

Mae’r ymchwil yn awgrymu bod angen tua 550 o ofalwyr maeth newydd bob blwyddyn yng Nghymru i gynorthwyo’r plant mewn cymunedau lleol. Mae gennych chi gyfle i roi ail gyfle iddyn nhw yn ystod plentyndod.

Hyd yn oed os nad ydych chi’n teimlo’n barod i gymryd cam a dod yn ofalwr maeth hirdymor, mae digon o ffyrdd i chi helpu a gwneud gwahaniaeth.

Sut mae maethu tymor byr yn gallu helpu plant lleol? Parhewch i ddarllen i gael gwybod am faethu tymor byr a sut mae’n helpu plant yn eich cymuned leol chi.

Beth yw gofal maeth tymor byr?

Efallai eich bod chi’n ystyried maethu, ond rydych chi bob amser yn gweld eich bod chi ynghlwm ag ymrwymiadau eraill sy’n eich atal chi rhag dod yn ofalwr maeth hirdymor. Gall maethu tymor byr fod yn gyfle i chi gymryd rhan a helpu plant sydd angen gofal.

Fel arfer, bydd angen gofalwr maeth tymor byr ar blentyn oherwydd nad yw ei deulu’n gallu gofalu amdano am gyfnod penodol.  Gall hynny fod oherwydd perygl o niwed yn y cartref, neu broblemau iechyd neu gaethiwed sydd gan y rhiant.

Mae rhesymau eraill pam y byddai angen i blentyn neu berson ifanc dderbyn gofal maeth tymor byr yn cynnwys:

  • Mae’r plentyn yn aros i gael ei fabwysiadu
  • Mae’r rhieni yn ei chael hi’n anodd ymdopi â gofalu am blentyn ar yr adeg honno
  • Mae penderfyniadau’n cael eu gwneud ynghylch pwy fydd yn gofalu amdanyn nhw yn y dyfodol
  • Rhoi seibiant byr i rieni, er enghraifft, os yw eu plentyn yn anabl neu ag anghenion iechyd cymhleth

Ydw i’n gallu maethu am gyfnod byr?

Mae’n bwysig nodi nad yw maethu tymor byr yn llai heriol nac yn haws na maethu tymor hir mewn unrhyw ffordd.  Yn ystod eu hamser gyda chi – a allai fod yn unrhyw amser rhwng diwrnod a dwy flynedd – mae’n debyg y bydd plant yn profi amrywiaeth o emosiynau ac ymatebion i’w sefyllfa nhw. Nid yw hyn yn golygu y dylech chi gael eich digalonni. Nid yw ein gofalwyr maeth tymor byr ni’n gwneud hyn ar eu pen eu hunain: mae Maethu Cymru Caerffili yn darparu cymorth rhagorol gan gynnwys hyfforddiant gan Fy Nhim Cymorth (MyST).

Felly, os ydych chi’n meddwl y gallwch chi ddarparu amgylchedd diogel a sicr i’r plant hyn a’ch bod chi wedi ymrwymo i wella eu bywydau nhw, rydych chi’n barod am ddechreuad da.

Beth sy’n digwydd i’r plentyn wedyn?

Ar ôl peth amser, ac yn dibynnu ar eu hamgylchiadau nhw, bydd plant yn eich gofal chi naill ai’n dychwelyd at eu teuluoedd nhw neu’n cael lle gyda gofalwyr maeth hirdymor neu fabwysiadwyr. Mae’n bosibl y byddwch chi’n dod yn ofalwr hirdymor ar gyfer plentyn yn eich gofal ar ôl cyfnod o faethu tymor byr. 

Pan fydd bywyd teuluol yn cael ei amharu, mae angen diogelwch, dealltwriaeth a chymorth ar blant. Yn aml, gofalwyr maeth lleol yw’r unig bobl sy’n gallu darparu hynny.  Yn bwysicaf oll, rydych chi’n gwneud gwahaniaeth ym mywydau plant, ni waeth a ydych chi’n maethu yn y tymor byr neu’r hirdymor.

Maethu plant ar eu pen eu hunain sy’n ceisio lloches

Yn 2021, roedd gofyn i bob awdurdod lleol ddarparu lleoliadau hanfodol i blant ar eu pen eu hunain sy’n ceisio lloches (UASC), o dan y Cynllun Trosglwyddo Cenedlaethol. Mae cydweithio yn hanfodol er mwyn gwneud y cynllun yn llwyddiant ac mae Maethu Cymru yn rhoi cymorth gweithredol i’r fenter hon.

Mae angen lleoliadau tymor byr ar frys ar rai plant a phobl ifanc ar eu pen eu hunain sy’n ceisio lloches, tra bydd eraill yn chwilio am ofal maeth tymor hwy.

Os nad yw maethu hirdymor yn rhywbeth rydych chi’n ei ystyried ar hyn o bryd, gall gofal maeth tymor byr neu dros dro fod yn gam bach sy’n cael effaith aruthrol ar fywydau’r bobl ifanc hynny.

Ychydig o ffeithiau am geiswyr lloches ifanc:

  • Maen nhw ar eu pen eu hunain, mewn gwlad anghyfarwydd
  • Maen nhw’n dod o ystod o wledydd ledled y Dwyrain Canol a Dwyrain Affrica
  • Mae’r rhan fwyaf yn siarad ychydig o Saesneg, neu ddim o gwbl
  • Mae’r mwyafrif yn fechgyn yn eu harddegau, rhwng 14 a 17 oed
  • Bydd llawer ohonyn nhw wedi profi digwyddiadau trawmatig ac efallai wedi teithio am fisoedd lawer cyn cyrraedd y Deyrnas Unedig

Nid yw darparu gofal i geiswyr lloches ifanc yn dasg syml. Yn aml, bydd y plant hynny wedi profi mwy o drawma a thrallod nag y gallwn ni ei ddychmygu, wedi gweld creulondeb, wedi profi newyn ac o bosibl wedi colli aelodau o’u teulu nhw oherwydd gwrthdaro yn eu mamwledydd. Yr eiliad maen nhw’n cyrraedd ein cymunedau lleol ni, ein plant ni ydyn nhw. Maen nhw’n haeddu cael gofal, cariad a chymorth cyfartal â’r plant lleol sy’n derbyn gofal.

Fel gofalwr tymor byr i’r bobl ifanc hynny, gallwch chi wneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Yr hyn sydd wir ei angen arnyn nhw yw rhywun sy’n gallu cydnabod a deall eu hunaniaeth, eu diwylliant a’u crefydd nhw; yn gallu eu helpu nhw i oresgyn y rhwystr iaith; a chymryd rhan mewn gweithgareddau gyda nhw i feithrin perthnasoedd sy’n hanfodol ar gyfer eu hymdeimlad nhw o berthyn. Yn y bôn, mae angen lloches, diogelwch a chariad arnyn nhw.

Rhan bwysig o’r rôl yw paratoi’r bobl ifanc hyn ar gyfer byw’n annibynnol a chynorthwyo eu hanghenion emosiynol, ieithyddol a diwylliannol.

Os ydych chi’n wydn, yn amyneddgar ac yn oddefgar, efallai mai dyma’r cyfle perffaith i chi wneud gwahaniaeth.

Yma yn Maethu Cymru, rydyn ni’n eich cynorthwyo chi gyda hyfforddiant a rhwydwaith cymorth lleol cyflawn, felly ni fyddwch chi fyth yn teimlo’n unig ar y daith hon.

Ydy maethu tymor byr yn addas i chi?

Mae angen i chi fod dros 18 oed, bod ag ystafell sbâr yn eich cartref chi a bod mewn sefyllfa dda i ofalu am blentyn neu berson ifanc.

Nid oes angen unrhyw hyfforddiant arbennig arnoch chi cyn dod yn ofalwr maeth, ond mae angen i chi fod â meddwl agored, yn ymroddedig i weithio gyda’ch gweithwyr cymdeithasol lleol a thîm o arbenigwyr, ac yn wydn. Bydd disgwyl i chi gysylltu â gweithwyr proffesiynol, rhieni biolegol a rhieni mabwysiadol i sicrhau bod y plentyn yn gallu prosesu ac addasu i’r newidiadau yn eu bywydau nhw.

Os yw hyn yn swnio fel chi ac eich bod chi’n dymuno cael gwybod rhagor am faethu tymor byr neu unrhyw fath arall o faethu, cysylltwch â’n tîm cyfeillgar ni heddiw.

Story Time

Stories From Our Carers

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch