sut mae'n gweithio

sut mae'n gweithio

sut mae’n gweithio

Pan fyddwch chi’n meddwl am faethu, efallai mai dim ond am deuluoedd maeth y byddwch chi’n meddwl. Ond mae maethu yng Nghaerffili yn llawer mwy cysylltiedig ac amrywiol nag y byddech yn ei feddwl.

Mae rhwydwaith pwrpasol Maethu Cymru Caerffili yn darparu arbenigedd, cymorth broffesiynol ac arweiniad pryd bynnag y bydd ei angen arnoch.

Adult tying childs shoe lace

gwell gyda’n gilydd

Cefnogi – dyna beth rydyn ni’n ei wneud. Cefnogi’r plant yn ein gofal. Cefnogi’r teuluoedd maeth sy’n gofalu amdanyn nhw. Cefnogi’r gweithwyr proffesiynol medrus sy’n gweithio gyda ni. Rydyn ni i gyd yn rhan o hyn gyda’n gilydd.

Yr hyn sy’n gwneud cymorth Maethu Cymru mor arbennig yw bod pob Awdurdod Lleol yn cydweithio. 22 o sefydliadau nid-er-elw ymroddedig, sy’n cyflawni pethau gwych i blant ledled Cymru. Gyda phopeth yn mynd yn ôl i’r bobl sydd ei angen fwyaf, does dim byd na allwn ni ei wneud.

Adult and young girl holding hands

beth sy'n ein gwneud ni'n wahanol

Dydyn ni ddim yn asiantaeth faethu gyffredin. Mae Maethu Cymru yn cynnwys 22 o dimau maethu Awdurdodau Lleol, gan gynnwys ein tîm ni yma yng Nghaerffili. Mae hyn yn golygu ein bod yn gweithio’n genedlaethol, ond yn meddwl ac yn gweithredu’n lleol.

Rydyn ni’n credu bod hyn er budd pennaf y plant rydyn ni’n gofalu amdanyn nhw. Mae cynnal cysylltiadau agos â’u cymuned leol yn eu helpu i dyfu fel unigolion. Mae cyfeillgarwch, ysgolion, clybiau cymdeithasol a theulu, wrth gwrs, mor bwysig. Felly, pan fydd hynny’n iawn iddyn nhw, byddwn bob amser yn rhoi blaenoriaeth i gadw plant yn yr amgylchedd cyfarwydd maen nhw’n ei adnabod ac yn ei garu. Dydy maethu ddim bob amser yn golygu newidiadau mawr. Mae’n ymwneud â gwella bywyd plentyn er mwyn iddo ei fwynhau i’r eithaf, a dod y fersiwn gorau posibl ohono’i hun. Gyda’n gilydd, gallwn gyflawni hyn.

rhagor o wybodaeth am maethu cymru caerffili:

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch