sut mae'n gweithio

y broses

y broses

Rydych chi ar fin cychwyn ar eich taith, ond pa mor hir mae’r broses faethu yn ei chymryd yng Nghaerffili, a beth allwch chi ei ddisgwyl? Yn ffodus, mae arbenigwyr Maethu Cymru yma gyda phopeth sydd ei angen arnoch ar gyfer y broses hon am oes.

Closeup of young boys legs playing hopscotch

y cam cyntaf

Beth yw cam cyntaf dod yn ofalydd maeth? Wel, mae hynny’n syml. Mae’n dechrau gydag ymholiad cychwynnol. Mae’r ffaith eich bod chi yma’n barod yn dangos bod gennych chi’r bwriadau cywir! Pa mor fach bynnag y bydd y cam cyntaf hwn yn ymddangos, mae’n nodi dechrau profiad sy’n mynd i newid eich bywyd chi a phlentyn maeth. Felly llenwch y ffurflen gyswllt isod, a gadewch i ni ddechrau arni.

Adult helping boy learn to ride a bicycle

yr ymweliad cartref

Ar ôl y cysylltiad cyntaf, byddem wrth ein bodd yn dod i gwrdd â chi. Bydd ymweld â lle rydych chi’n byw yn rhoi syniad gwell i ni o bwy ydych chi wrth i ni ddechrau ffurfio’r berthynas hollbwysig honno. Os bydd y cyfyngiadau’n caniatáu, byddwn yn dod draw am baned. Ond, os nad yw hyn yn bosibl, gallwn bob amser ddechrau gyda galwad fideo.

Adult tying childs shoe lace

yr hyfforddiant

Yn ystod y cyfnod cynnar hwn, mae’n bryd dechrau ar eich hyfforddiant a’ch datblygiad. I ddechrau, rydyn ni’n eich gwahodd i fynychu’r cwrs “Paratoi i Faethu”, sydd weithiau’n cael ei alw’n “Sgiliau Maethu” hefyd.

Mae’r hyfforddiant hwn, sy’n cael ei gynnal dros ychydig ddyddiau, wedi’i gynllunio i’ch cyflwyno i fyd maethu ac mae’n eich helpu i benderfynu ai dyma’r llwybr iawn i chi. Mae hwn hefyd yn gyfle gwych i gwrdd â gofalyddion maeth eraill, yn ogystal ag aelodau o dîm Maethu Cymru Caerffili.

Woman helping young girl with homework

yr asesiad

Bydd rhan asesu’r broses yn rhoi syniad go iawn i chi o’r hyn sydd o’ch blaen o ran maethu. Dyma gyfle i chi ac aelodau eich teulu godi unrhyw beth am y byd maethu, sydd efallai’n ymddangos yn ddryslyd. Does dim cwestiynau gwirion a dydy hwn ddim yn brawf o unrhyw fath.

Mae pob gofalydd maeth newydd yn wahanol, felly mae hyn yn naturiol yn brofiad dysgu ac rydyn ni wrth ein hochr drwy’r cyfan. Mae ein gweithwyr cymdeithasol arbenigol yma i’ch helpu i ddeall popeth sy’n gysylltiedig â bod yn ofalydd maeth.

Two young boys in playground playing together on seesaw

y panel

Ar ôl i’r asesiad ddod i ben, bydd popeth rydyn ni wedi’i ddysgu yn cael ei gyflwyno i banel Maethu Cymru Caerffili. Mae’r panel yn cynnwys pobl wybodus, brofiadol ac angerddol o bob cefndir, a fydd yn edrych ar bob darpar ofalydd maeth fel unigolyn.

Dim dyma’r foment dyngedfennol yn eich taith faethu. Pwrpas y panel yw asesu ac argymell beth allai weithio orau i chi a’ch darpar blentyn maeth.

Adult and young girl holding hands

y cytundeb gofal maeth

Ar ôl i chi gael eich cymeradwyo, mae eich taith tuag at ofal maeth yn cychwyn! Y cytundeb gofal maeth sy’n amlinellu’n union beth mae’n ei olygu i fod yn rhan o’r gymuned faethu. O’ch rolau a’ch cyfrifoldebau personol, i’r cymorth cyffredinol a fydd bob amser ar gael i chi pan fydd angen.

Woman and young girl using computer to make video call

ydych chi’n barod i gymryd y cam cyntaf?

cysylltwch