
pwy all faethu?
Mae pob plentyn yn wahanol, ac mae’r gofal maeth sydd ei angen arnyn nhw’n wahanol hefyd. Os ydych chi’n credu y gallwch chi gynnig y cariad mae’n ei haeddu i blentyn mewn gofal, cysylltwch â ni!
dysgwych mwycydweithio i adeiladu gwell dyfodol i blant lleol
Drwy rannu gwybodaeth a syniadau am faethu yng Nghaerffili, gyda’n gilydd gallwn greu newid go iawn i fywydau plant, gan roi cyfle iddyn nhw ffynnu wrth iddyn nhw dyfu.
Ni yw Maethu Cymru Caerffili, rhan o rwydwaith cenedlaethol nid-er-elw o 22 gwasanaeth maethu’r Awdurdodau Lleol yng Nghymru.
Mae pob plentyn yn wahanol, ac mae’r gofal maeth sydd ei angen arnyn nhw’n wahanol hefyd. Os ydych chi’n credu y gallwch chi gynnig y cariad mae’n ei haeddu i blentyn mewn gofal, cysylltwch â ni!
dysgwych mwySut mae maethu yn gweithio a beth allwch chi ei ddisgwyl? Mae’r atebion ar gael yma.
mae'r atebion ar gael ymaMae rôl maethu yng Nghaerffili yn gyfle i newid bywydau. Dyma sy’n ein cymell ni, ac os yw’n eich cymell chi hefyd, gallwch wneud hynny’n union – gallwch wneud gwahaniaeth.
Ond fyddwch chi ddim ar eich pen eich hun ar y daith hon. Rydyn ni’n darparu hyfforddiant arbenigol, cymorth bwrpasol a lwfansau ariannol i bawb rydyn ni’n gweithio gyda nhw. Fel sefydliad nid-er-elw, rydyn ni wedi ymrwymo i feithrin hapusrwydd y plant rydyn ni’n gweithio gyda nhw. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.
Sut mae cychwyn ar eich taith tuag at fod yn ofalydd maeth a beth allwch chi ei ddisgwyl?
Mae maethu yn ymrwymiad. Bydd yn eich herio chi, ond bydd y manteision i chi a’r plant rydych chi’n eu maethu yn para am oes.
Dysgwch sut mae cymryd y camau cyntaf gyda ni ar eich taith faethu, beth i’w ddisgwyl nesaf a sut gallwn ni helpu ar bob cam o’r ffordd.
dysgwych mwyRydyn ni’n eich cefnogi chi. Rydyn ni yma sut bynnag y bydd arnoch ein hangen a phryd bynnag y bydd arnoch ein hangen. Bob amser.
beth rydym yn ei gynnig