ffyrdd i maethu

pwy all faethu

pwy all faethu yng nghaerffili?

Mae’r ffaith eich bod chi yma yn golygu eich bod wedi cymryd y cam cyntaf ar daith o ddarganfod, caru a phositifrwydd i chi’ch hun ac i blentyn maeth. Mae hyn yn newyddion gwych!

Pobl union fel chi sydd eu hangen ar blant maeth yng Nghaerffili. Rhywun i wrando arnyn nhw. Rhywun i gredu ynddyn nhw. Rhywun i fynd yr ail filltir iddyn nhw.

P’un ai ydych chi’n berchen ar eich cartref neu’n ei rentu, p’un ai ydych chi’n briod neu’n sengl, beth bynnag yw eich ethnigrwydd neu gyfeiriadedd rhywiol. Gallwch helpu i newid bywyd person ifanc am byth.

Rydyn ni’n dathlu amrywiaeth ein gofalyddion maeth. Eich sgiliau a’ch profiad yw’r pethau pwysicaf. Rydyn ni’n credu bod set sgiliau eang a mwy amrywiol yn rhywbeth cadarnhaol iawn. Ar ben hynny, mae gan blant maeth yng Nghaerffili gefndiroedd a hunaniaethau yr un mor amrywiol, felly rydyn ni’n croesawu natur unigryw pawb gyda breichiau agored.

Ydych chi’n dal ddim yn siŵr pwy all faethu plentyn yng Nghaerffili? Daliwch ati i ddarllen i gael gwybod.

mythau maethu: gwahaniaethu rhwng ffaith a ffuglen

Dim ots pwy ydych chi, mae maethu yn gyfle i wneud gwahaniaeth go iawn i blant yng nghymuned Caerffili. Gall maethu olygu cymaint o bethau – o aros dros nos i rywbeth tymor hwy. Mae angen gwahanol bobl yn y maes maethu hefyd. 

Dyna pam mae arnon ni angen gofalyddion amrywiol sydd â chefndiroedd, profiadau a straeon gwahanol. Ein rôl ni yw dathlu pwy ydych chi, a’r holl sgiliau a phrofiadau unigryw rydych chi’n eu cynnig. Ni yw eich canolfan arbenigol bwrpasol chi. Rydyn ni i gyd yn dod at ein gilydd, ynghyd â’ch ffrindiau, eich teulu a’ch cymuned, i sicrhau’r gorau i blant. 

O ran pwy sy’n gallu maethu, rydyn ni’n gofyn: allwch chi wneud gwahaniaeth, ac ydych chi eisiau gwneud hynny? Os gallwch chi ac os ydych chi, yna gallwn ddechrau gwneud newidiadau cadarnhaol i fywyd person ifanc.

 

alla i faethu os ydw i’n gweithio’n llawn amser?

Dydy bywyd gwaith prysur ddim bob amser yn rhwystr i faethu. Mae’n ymwneud â dewis y math iawn o faethu ar gyfer eich amgylchiadau a gwneud yn siŵr bod eich rhwydwaith yn gallu bod yno i’ch cefnogi.

Mae rhai rhieni maeth yn gweithio’n llawn amser ac yn maethu’n rhan amser drwy gynnig seibiant byr. Mae eraill yn maethu’n llawn amser. Mae gweithio yn unol â’ch budd pennaf chi a’r plentyn maeth wrth galon popeth rydyn ni’n ei wneud.

Mae maethu yn ymrwymiad, ac mae angen mynd ati i weithio fel tîm. Dydyn ni ddim yn disgwyl i chi fod yn ofalydd maeth yng Nghaerffili ar eich pen eich hun. Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â’r cymysgedd cywir o weithwyr cymdeithasol, athrawon a therapyddion, ac rydyn ni yma i’ch cefnogi bob cam o’r ffordd.

 

alla i fod yn ofalydd maeth os ydw i’n byw mewn llety rhent?

Mae gennyn ni ofalyddion maeth gyda phob math o wahanol gartrefi – rhai’n rhentu eu cartrefi ac eraill yn berchen arnyn nhw. Cyn belled â bod eich sefyllfa fyw yn ddiogel, fydd hyn ddim yn eich atal rhag helpu plentyn i symud ymlaen mewn bywyd. Os ydych chi’n hoffi lle rydych chi’n byw, efallai y bydd rhywun arall hefyd!

Meddyliwch amdano fel hyn. Fe allech chi ddefnyddio eich ystafell sbâr fel storfa. Ond gallai hefyd fod yn rhywbeth ychydig yn fwy anhygoel: ystafell wely, ystafell chwarae, lle diogel i rywun sydd ei angen.

 

alla i faethu os oes gen i blant fy hun?

Mae pob plentyn yn wahanol, sy’n golygu hefyd bod pob teulu’n wahanol. Os oes gennych chi blant eich hun, mae gofalu am blant maeth yn golygu ychwanegu at eich teulu a charu a gofalu am ragor o bobl.

Mae cael plant sy’n gallu cyd-dynnu â’ch plentyn maeth a dod i adnabod eich plentyn maeth yn rhywbeth cadarnhaol, ac i’ch plant eich hun, mae dysgu derbyn rhywun newydd yn rhywbeth gwerth chweil hefyd. Mae’n rhoi dealltwriaeth i blant, yn eu helpu i ffurfio cyfeillgarwch ac yn meithrin eu gallu i ofalu am eraill.

 

ydw i’n rhy hen i faethu?

Gallwch gynnig profiadau di-ben-draw i blentyn maeth, faint bynnag yw eich oedran. Does dim uchafswm oedran ar gyfer maethu, felly gallwch helpu’r rheini sydd mewn angen ar unrhyw adeg bron yn eich bywyd fel oedolyn. Byddwn bob amser yno i chi gyda chymorth a hyfforddiant arbenigol yn lleol, yn eich paratoi ar gyfer unrhyw beth a ddaw i’ch rhan.

 

ydw i’n rhy ifanc i faethu?

Mae profiad bywyd yn fantais fawr, ond dydy bod yn ifanc ddim yn golygu na allwch fod yn rhan o gymuned faethu Caerffili. Gyda’n rhwydwaith cefnogi i’ch tywys, gallwch fwynhau’r llwybr sydd o’ch blaen, gan ganolbwyntio ar gariad, gofal a digon o hwyl.

 

a oes rhaid i gyplau sy’n maethu fod yn briod neu mewn partneriaeth sifil?

Does dim gofynion arbennig o ran bod mewn perthynas – dydy priodas neu bartneriaeth sifil ddim yn amod chwaith. Mae angen sefydlogrwydd ar blant, felly os ydych chi’n sengl neu mewn perthynas, os gallwch chi gynnig hynny, yna gallech chi faethu. Bydd ein tîm Maethu Cymru Caerffili lleol yn eich helpu i weld ai dyma’r amser iawn i chi.

 

alla i faethu os ydw i’n drawsryweddol?

Heb os nac oni bai. Dydy bod yn rhiant maeth da ddim yn dibynnu ar eich rhywedd. Os gallwch ddangos cariad, trugaredd a gofal tuag at eraill, yna mae’r gymuned gofal maeth yn eich croesawu chi.

 

alla i faethu os ydw i’n hoyw?

Unwaith eto, dydy rhywioldeb ddim yn effeithio ar ba mor addas ydych chi i fod yn rhiant maeth. Eich gallu i ddarparu amgylchedd diogel i blant fynegi eu hunain, cael hwyl a dysgu sy’n bwysig.

 

alla i faethu os oes gen i gi neu gath?

Rydyn ni eisiau i bawb gyd-dynnu cystal â phosibl, ac mae hynny’n cynnwys eich anifeiliaid anwes! Dydy cael unrhyw fath o anifail anwes ddim yn golygu na allwch chi faethu. Mae’n golygu y byddwn yn eu cynnwys yn eich asesiad, er mwyn gwneud yn siŵr y byddan nhw ac unrhyw blant maeth yn y dyfodol yn cyd-dynnu’n dda.

Mewn llawer o achosion, gall anifeiliaid anwes gynnig math gwahanol o gymorth a bod o fudd gwirioneddol mewn teulu maeth, gan helpu i ddysgu cyfrifoldeb, gwerthfawrogiad a gofal.

 

alla i faethu os ydw i’n ysmygu?

Mae gan Awdurdodau Lleol wahanol bolisïau sy’n ymwneud ag ysmygu (gan gynnwys e-sigaréts) a gofal maeth, a’r peth pwysicaf yw bod yn onest. Byddwn yn cynnig arweiniad ar sut i roi’r gorau iddi os hoffech chi wneud hynny. Ym mhob achos, mae’n golygu dod o hyd i’r gyfatebiaeth iawn rhwng eich teulu chi â’r plant yn ein gofal.

 

alla i faethu os ydw i’n ddi-waith?

Mae gwaith yn gallu bod yn rhywbeth cyfnewidiol iawn i bawb. Yr hyn sy’n wirioneddol bwysig yw bod yn rhiant maeth da, gan gynnig cymorth, arweiniad a chariad bob dydd. Felly, os nad ydych chi’n gweithio ar hyn o bryd, does dim rhaid i hyn eich atal rhag bod yn ofalydd maeth. Mae cynifer o opsiynau ar gael a byddwn yn gweithio gyda chi i wneud yn siŵr mai dyma’r amser iawn i chi.

 

alla i faethu os nad oes gen i dŷ mawr?

Cyn belled â bod gennych chi ystafell sbâr, lle i blentyn maeth ei alw’n ei ystafell ei hun, yna does dim rhaid i chi boeni am faint eich tŷ. Mae’n ymwneud yn fwy â’r cariad, y gofal a’r sylw y tu mewn i’r tŷ, sy’n ei wneud yn gartref i rywun arall yn y pen draw. Yr unig beth sydd ei angen arnoch yw ystafell sbâr ar gyfer y plentyn.

rhagor o wybodaeth am faethu

Two young boys in playground playing together on seesaw

mathau o faethu

Mae sawl ffordd o wneud gwahaniaeth. Gall maethu olygu diwrnod, wythnos, blwyddyn neu fwy.

mathau o faethu
Woman helping young girl with homework

cwestiynau cyffredin

Sut mae maethu yn gweithio a beth allwch chi ei ddisgwyl? Mae’r atebion ar gael yma.

dysgwych mwy
Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch