pam maethu gyda ni?

pam ein dewis ni?

pam ein dewis ni?

Yn Maethu Cymru Caerffili, rydyn ni’n credu’n llwyr mewn gweithio fel tîm i wneud y gorau i’r plant yn ein gofal.

Pwrpas, dim elw, sy’n bwysig i ni. Breuddwydion, dim difidendau. Rhannu profiadau, dim rhanddeiliaid. Mae maethu unrhyw blentyn yn brofiad dysgu i bawb. Dyna pam rydyn ni’n gweithio wrth eich ochr i gefnogi, cynghori a dysgu ar y cyd bob cam o’r ffordd.

Mae’n debyg bod eich rhesymau dros ddod yn rhiant maeth yng Nghaerffili yr un fath â’n rhesymau ni. Helpu plant sydd angen hynny, gan gynnig cariad, sicrwydd a’r cyfle i adael iddyn nhw ddatblygu fel pobl.

Family of 2 adults and 2 children together on coastline

ein cenhadaeth

Ein cenhadaeth, yn syml, yw sicrhau hapusrwydd, diogelwch a datblygiad yr holl blant rydyn ni’n gofalu amdanyn nhw yma yng Nghaerffili.

Rydyn ni wedi ymrwymo i gyflawni hyn. Nid dim ond ar gyfer yr ychydig ddyddiau, wythnosau, misoedd neu flynyddoedd nesaf. Rydyn ni eisiau’r pethau gorau mewn bywyd i’r plant hyn, am byth.

Support session meeting with 2 adults and young boy

ein cymorth

Un o’r prif resymau dros faethu yng Nghaerffili yw’r strwythur cefnogi rydyn ni’n ei gynnig.

Er bod dod yn ofalydd maeth yn benderfyniad mawr, yn naturiol, rydyn ni’n gwneud yn siŵr nad ydych chi’n gwneud y penderfyniad ar eich pen eich hun. Mae gennyn ni bopeth sydd ei angen arnoch i gychwyn, i barhau ac i ffynnu ar eich taith fel gofalydd maeth.

Adult helping young boy with homework in kitchen

ein ffyrdd o weithio

Cysylltu a chydweithio yw popeth i ni. Dyna sy’n gwneud y gwaith rydyn ni’n ei wneud gyda gofalyddion maeth a phlant mor arbennig.

Mae’n hawdd cysylltu â ni ac mae’n hawdd siarad â ni. Yn y pen draw, rydyn ni eisiau’r hyn sydd orau i bawb. Rhannu syniadau, problemau a gwybodaeth sy’n ein gwneud ni’n arbenigwyr ar sicrhau dyfodol hapus i’r plant rydyn ni’n gofalu amdanyn nhw.

Mae pob plentyn yn wahanol, a dyna sy’n wych! Mae pob un yn dilyn ei lwybr ei hun, ac rydyn ni yno yn helpu pob un i ganfod ei ffordd. Rydyn ni’n trin ein gofalyddion maeth gyda’r un parch ac yn gwerthfawrogi eu hunigolrwydd lawn gymaint hefyd. Ein rôl ni yw eu helpu i fod y gorau y gallan nhw fod, drwy fod yn nhw eu hunain.

Cael y rhyddid, ond hefyd y cymorth a’r arweiniad i gyrraedd eich potensial, a mynegi eich hun ar hyd y ffordd – dyna sy’n bwysig i ni.

Adult and young girl baking together in kitchen

eich dewis

Mae digon o resymau dros ddod yn ofalydd maeth yng Nghaerffili. Yn y pen draw, mae dewis Maethu Cymru yn golygu rhoi hapusrwydd, lles a budd pennaf plant lleol yn gyntaf. Mae gweithio gyda’n gilydd i’w gwneud nhw’n hapus yn ein gwneud ninnau’n hapus hefyd.

Cysylltwch â’n tîm a chymryd y cam cyntaf heddiw.

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch heddiw