pam maethu gyda ni?
cefnogaeth a manteision
cyllid a lwfansau
Mae bod yn rhan o gymuned Maethu Cymru Caerffili yn golygu y byddwch yn cael llawer o help ar hyd y ffordd. Byddwn yn seilio'r lwfansau ariannol a gewch ar ffactorau fel y math o faethu y byddwch yn ei wneud, faint o blant rydych yn eu maethu ac am ba hyd.
Er enghraifft, fel gofalydd maeth yng Nghaerffili, byddech yn derbyn o leiaf £657 yr wythnos pe baech yn maethu 2 o blant 3 a 10 oed.
manteision eraill
Dydy manteision maethu ddim yn rhai ariannol yn unig. Er y byddwch yn cael cymorth ariannol, er mwyn eich helpu ymhellach ar eich taith, rydyn ni hefyd yn cynnig nifer o fân fanteision, gan gynnwys:
- Cerdyn clyfar, sy’n cynnig amrywiaeth o arbedion gan gynnwys disgownt ar fynediad i atyniadau a lleoliadau lleol
- Pas CADW sy’n rhoi mynediad am ddim i bob castell yng Nghymru
- Mynediad at gymorth seicolegol gwell gan seicolegydd clinigol ac ystod eang o gefnogaeth gan Fy Nhîm Cymorth (MyST)
- Cefnogaeth arbenigol i unrhyw blentyn sy’n derbyn gofal sy’n cael anawsterau mewn addysg
- Cymorth a mentora gan ofalyddion maeth profiadol drwy gynllun ‘cyfaill’ a’n grŵp cymdeithas gofalyddion maeth
- Amrywiaeth o gyfleoedd dysgu hyblyg, gan gynnwys e-ddysgu, podlediadau, deunyddiau darllen a gweithdai
ymrwymiad cenedlaethol maethu cymru
Dim dyna’r cyfan! Yn ogystal â’r holl fanteision uchod, mae pob Awdurdod Lleol yng Nghymru, ac felly’r holl ofalyddion yn yr awdurdodau lleol hynny, yn derbyn pecyn o hyfforddiant, cymorth a manteision y cytunwyd arno. Felly, fel pob gofalydd maeth Maethu Cymru arall, bydd gofalyddion maeth Caerffili yn elwa o’r canlynol:
un tîm
Mae tîm Maethu Cymru Caerffili yn gweithio gyda chi, y plant maeth a phawb sy’n ymwneud â’u gofal fel un pwynt cyswllt cyfan. Mae hyn yn eich gwneud chi’n rhan o’n tîm ni, a ninnau’n rhan o’ch tîm chithau. Mae’n ymwneud â chydweithio’n llwyr, er mwyn cynnig y gofal gorau posibl. Rydyn ni’n gallu gweithio fel hyn oherwydd ein bod ni i gyd yn rhan o’r Awdurdod Lleol.
Byddwn yn rhannu syniadau, yn codi materion ac yn dathlu llwyddiannau gyda’n gilydd, bob amser. Mae cynhwysiant, parch a chysylltiad yn ein helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael y profiad gofal maeth gorau posibl.
Drwy ymuno â’r tîm hwn, mae’r gymuned hon o arbenigwyr gofal maeth yn golygu eich bod yn dod yn rhan o sefydliad sy’n gofalu am blant agored i niwed ledled Cymru. Er y byddwch yn dod yn rhan o’n gweithrediad cenedlaethol, byddwch yn ein helpu i wneud ein gwaith hanfodol, yn arbennig ochr yn ochr â chymuned Maethu Cymru Caerffili.
dysgu a datblygu
Mae ymuno â ni yn ymwneud â’ch helpu chi i dyfu, yn ogystal â chefnogi twf ein plant maeth. Mae ein system ddysgu a datblygu yn gadarn o ran llwyddiant ar draws ein holl Awdurdodau Lleol. Rydyn ni’n gwneud y broses bontio i faethu a’r daith ar ôl hynny mor ddiddorol â phosibl. Rydyn ni’n darparu’r holl offer a’r hyfforddiant i’ch galluogi i ddiwallu anghenion y plant yn eich gofal yn llawn. I fod yn hyderus ac yn abl.
Rydyn ni bob amser yn pwysleisio bod pob plentyn yn unigryw, a bod angen sylw unigryw ar bob plentyn. Ond mae’r un peth yn wir amdanoch chithau hefyd! Dyna pam, fel gofalydd maeth gyda Maethu Cymru Caerffili, bydd gennych gofnod dysgu personol unigol a chynllun datblygu.
Mae’r cynllun hwn yn cydnabod y bydd eich taith hyd at y pwynt hwn yn llawn sgiliau a phrofiadau trosglwyddadwy gwerthfawr. Mae’n ein helpu i wybod lle rydych chi o ran eich datblygiad a beth allai’r camau gorau nesaf fod.
cefnogi
Dydych chi byth ar eich pen eich hun fel gofalydd maeth gyda Maethu Cymru Caerffili. Mae gennyn ni dîm llawn o arbenigwyr i’ch addysgu, eich arwain a’ch cynghori pryd bynnag y bydd angen hynny arnoch chi.
Byddwch yn gallu cael mynediad at amrywiaeth o grwpiau cefnogi bob amser hefyd. Mae cwrdd â gofalyddion maeth eraill yn yr ardal i rannu profiadau a syniadau â nhw yn amhrisiadwy. Mae sicrhau bod y gymuned newydd hon ar gael mor rhwydd yn dangos ein bod ni i gyd yn gweithio gyda’n gilydd i sicrhau’r canlyniadau gorau i’n
plant maeth. Mae cymorth gan gymheiriaid ar gael gyda phob tîm Maethu Cymru lleol, a gall wneud byd o wahaniaeth.
Mae llawer o gymorth ar gael i chi gan weithwyr proffesiynol hefyd. Dydych chi byth yn gwybod pryd y bydd help llaw neu gyngor arbenigol yn ddefnyddiol. Dyna pam rydyn ni ar gael i’ch cefnogi bob awr o’r dydd. Rydyn ni’n wynebu popeth gyda’n gilydd.
Mae pawb yn Maethu Cymru yn deall beth i’w ddweud, beth i’w gynnig a phryd i’w gynnig. Peidiwch byth â bod ofn cysylltu â ni. Helpu ein gilydd yw’r peth rydyn ni’n ei wneud orau.
y gymuned faethu
Ar ôl i’ch profiad o faethu ddechrau’n llawn, cewch gyfle i ddod i’n digwyddiadau a’n gweithgareddau niferus. Ffordd wych o gysylltu, dysgu a chael digon o hwyl!
Ymysg y mathau niferus o gymorth a manteision sy’n dod law yn llaw ag ymuno â Maethu Cymru, byddwch hefyd yn dod yn aelod o’r Rhwydwaith Maethu (TFN) a Chymdeithas Maethu a Mabwysiadu (AFA) Cymru. Rydyn ni’n talu eich tâl aelodaeth yn llawn, fel mater o drefn, ar gyfer y rhain.
Mae’r sefydliadau arbenigol hyn yn darparu cymorth annibynnol, cyngor preifat, arweiniad a digon o fanteision, sydd bellach ar gael i chi hefyd. Mae’r rhain yn sylfeini pwysig ar gyfer unrhyw deulu maeth, felly rydyn ni eisiau i chi gael mynediad atyn nhw fel rydych chi’n ei haeddu.
llunio’r dyfodol
Er bod deall taith unrhyw blentyn maeth neu ofalydd hyd at y presennol yn hanfodol, rydyn ni’n arbenigo mewn gwneud yn siŵr bod y bennod nesaf mor llwyddiannus â phosibl. Allwn ni ddim newid y gorffennol, ond yn sicr mae gennyn ni’r gred, yr angerdd a’r adnoddau i ddylanwadu ar y dyfodol i chi, ac ar gyfer y plant rydyn ni’n gofalu amdanyn nhw.
Does dim un gofalydd maeth ar ei ben ei hun gyda Maethu Cymru Caerffili. Mae gweithredu’n lleol er lles anghenion y plant, ond ar raddfa genedlaethol nid yn unig yn golygu y byddwch yn cael cymorth rhagorol, mae hefyd yn golygu y bydd eich profiadau yn dylanwadu ar y cymorth y byddwn yn ei chynnig yn y dyfodol. Mae angen eich mewnbwn chi arnon ni er mwyn ein helpu ni i helpu eraill. Byddwn bob amser yn gwerthfawrogi’r hyn rydych chi’n ei gynnig.