stori

Linda a Pete

Daeth Linda a Pete yn ofalwyr maeth ar ôl penderfynu eu bod am wneud gwahaniaeth ym mywydau plant hŷn.

Y teulu maeth

A hwythau’n gwpl priod ers 40 mlynedd, penderfynodd Linda a Pete ymchwilio i faethu ar ôl i’w plant eu hunain dyfu i oed a bod cyfle i’r cwpl ymddeol yn gynnar

“Yn sydyn, roedd ychydig mwy o amser gennym, felly roedd yn teimlo’n iawn i ddechrau’r broses o fod yn rhieni maeth.”

Gwnaeth dod i adnabod ein tîm Caerffili helpu Linda a Pete i benderfynu eu bod yn gwneud y penderfyniad cywir.

“Roedd gennym ymdeimlad ein bod yn siarad â phobl ar yr un lefel â ni, sydd ond eisiau gwneud pethau’n well ar gyfer plant. Roeddem yn teimlo efallai bod gennym lawer mwy i’w roi i blant hŷn”

“Mae wedi dod yn debyg i un teulu estynedig mawr”

Roedd plentyn maeth cyntaf Linda a Pete yn ferch 12 oed. Ar y dechrau, roedd pethau braidd yn drafferthus, ond mae’r newid wedi bod yn rhyfeddol.

“Roedd hi braidd yn wyllt ar adegau ac roedd hi’n aml mewn trafferth. Gwnaethom ei helpu i reoli ei hemosiynau’n wahanol. Roedd hynny amser maith yn ôl… bellach mae hi yn y brifysgol ac mae ganddi swydd ran-amser. Fydd hi ddim yn hir cyn iddi sefyll ar ei thraed ei hun ond bydd hi bob amser yn rhan o’n teulu.”

Nawr mae Linda a Pete hefyd yn helpu i ofalu am ferch 13 oed oedd angen ychydig o sefydlogrwydd ar y cam pwysig hwn o’i bywyd.

“Mae hi wedi bod gyda ni ers bron chwe mis bellach ac mae wedi bod yn wych ei gweld hi’n magu hyder bob dydd”.

“Rydym yn rhan o gymuned”

Nid yw Linda a Pete yn teimlo ar eu pennau eu hunain fel gofalwyr maeth. Yn hytrach, maent mewn cysylltiad agos â rhwydwaith o ofalwyr maeth eraill, gyda gweithwyr proffesiynol a chyda thîm cyfan Caerffili.

“Mae cynifer o bobl i droi atyn nhw am gyngor, a chymaint o hyfforddiant a chefnogaeth gan y tîm. Mae wedi rhoi bywyd newydd i ni!”


Am ddechrau eich taith faethu eich hun?

Os yw darllen stori Linda a Pete wedi eich annog i ymchwilio i fod yn ofalwr maeth, byddem wrth ein boddau o glywed gennych. Cysylltwch â’n tîm heddiw i ddechrau arni.

Dysgwch fwy am sut mae maethu’n gweithio a beth y gallai ei olygu i chi.

Story Time

Stories From Our Carers

Woman and young girl using computer to make video call

dod yn ofalwr maeth

cysylltwch