stori

Peter: Mae Llety â Chymorth yn darparu amgylchedd cartrefol i bobl ifanc

Mae Peter wedi bod yn darparu llety â chymorth yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ers naw mlynedd. Yn y cyfnod hwnnw, mae e wedi rhoi cartref i chwe pherson ifanc am gyfnodau rhwng blwyddyn a dwy flynedd. Hefyd, mae e wedi darparu llety brys, weithiau am gyn lleied â phenwythnos neu hyd at ychydig wythnosau.
Siaradon ni â Peter am ei brofiad a beth mae’n ei olygu iddo.

I ddod yn ddarparwr llety â chymorth, roedd yn rhaid i mi gael asesiad maethu a hyfforddiant ac roedd yn rhaid i mi gael fy nghymeradwyo gan banel.

Rydw i’n gallu darparu llety i bobl ifanc 16 oed a hŷn, dynion ifanc a menywod ifanc. Ar hyn o bryd, rydw i’n darparu llety i ddau berson ifanc oherwydd bod y Gwasanaethau Cymdeithasol wedi gofyn am lety brys yn ddiweddar, ond yn gyffredinol dim ond un person ifanc sy’n byw gyda fi.

“Weithiau mae’n cymryd amser i feithrin perthynas ymddiriedus”


Fel y gallwch chi ddychmygu, mae’n gallu bod yn anodd oherwydd, fel pob person ifanc, maen nhw’n llywio cyfnod anodd yn eu bywydau rhwng bod yn blentyn ac oedolyn, ac mae ganddyn nhw’r heriau ychwanegol o dderbyn gofal.

Weithiau mae’n cymryd amser i feithrin perthynas ymddiriedus a gall gymryd amser i lywio amgylchedd adeiladol i’r ddau ohonom ni fyw ynddo.

Rydw i wedi darparu cartref i bobl ifanc lle mae wedi gweithio’n dda iawn ac ar adegau eraill lle nad yw e wedi gweithio. Yn ystod cyfnodau anodd gall fod yn dipyn o her ond, ar y cyfan, mae wedi bod yn brofiad cadarnhaol i mi.

Mae angen rhywfaint o hyblygrwydd arna i hefyd oherwydd weithiau bydd pobl ifanc yn gwneud camgymeriadau neu nid oes ganddyn nhw sgiliau bywyd pan fyddan nhw’n cyrraedd.

Hefyd, pan fydd person ifanc yn symud ymlaen, rydw i’n defnyddio hynny fel cyfle i gael seibiant i fi fy hun am ychydig wythnosau.

“Rydyn ni’n coginio prydau i’n gilydd”



Rydyn ni’n cyflawni tasgau pob dydd – diwrnodau allan, maen nhw’n helpu gyda’r coginio, golchi dillad, dysgu sgiliau bywyd, rydyn ni’n siarad am eu diwrnod a’u lles – byw bywyd cyffredinol gyda’n gilydd. Weithiau rydyn ni’n cael prydau gyda’n gilydd ac yn coginio prydau i’n gilydd, mae’n dibynnu ar y diwrnod.
Mae fy mhlant fy hun sydd yn eu hugeiniau wedi bod yn gefnogol erioed, ni fu erioed unrhyw broblemau, rydyn ni’n cynnwys y bobl ifanc yn ein bywyd teuluol. Mae pobl ifanc wedi ymuno â ni ar gyfer cinio Nadolig.

“Rhaid cael dull gweithio fel tîm i lwyddo”



Rydw i’n teimlo fel rhan o dîm yng Nghaerffili. Rydw i’n gwybod bod yna bobl i’w ffonio os oes angen ac rydw i’n cael goruchwyliaeth reolaidd gan fy ngweithiwr cymdeithasol.
Yn fy marn i, gyda chymorth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol, mae’r person ifanc wedi cael ei ddewis yn ofalus i gyd-fynd â mi o’r dechrau, a’r un peth rydw i bob amser yn mynnu yw bod y person ifanc mewn cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant.
Mae gen i weithiwr cymdeithasol ac mae gan y bobl ifanc eu gweithiwr cymdeithasol eu hunain gan fod angen eu cymorth eu hunain arnyn nhw.
Yn fy marn i, mae’r cymorth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol yn hanfodol i’r bobl ifanc ond hefyd i mi. Fyddwn i ddim yn dal i wneud hyn heb y cymorth hwn. Hefyd, mae’r cyflog ychwanegol yn helpu gyda chostau byw. Rhaid cael dull gweithio fel tîm i lwyddo.

Os nad yw pethau’n gweithio, yn gyffredinol mae hyn oherwydd nad yw’r pethau hyn ar waith. Ar y cyfan, mae pethau’n gweithio neu fel arall, mae pobl yn penderfynu nad yw llety â chymorth yn addas iddyn nhw. Rydw i’n deall hynny ac nid yw’n addas i bawb.

“Rydw i wedi cadw mewn cysylltiad â phobl ifanc sydd wedi byw gyda mi”



Mae llety â chymorth yn darparu amgylchedd cartrefol i bobl ifanc a gall sicrhau canlyniadau gwell i’r person ifanc. Rydw i wedi cadw mewn cysylltiad â phobl ifanc sydd wedi byw gyda mi ac, yn gyffredinol, maen nhw i gyd bellach yn byw bywyd adeiladol.

Mae’r fenyw ifanc sydd wedi bod yn byw gyda mi yn ddiweddar wedi cyflawni ei harholiadau Safon Uwch yn ddiweddar ac fe wnes i helpu hi i symud i’r Brifysgol yr wythnos hon! Roedd hi mewn gofal maeth yn flaenorol, roedd angen amgylchedd byw cartrefol sefydlog arni hi a daeth hi ata i yn gyntaf fel llety seibiant am ychydig benwythnosau.
Roedd person ifanc arall yn byw gyda mi yn ystod cyfnod Covid, roedd e wedi symud o dramor i’r DU a derbyn gofal. Mae ganddo fe bellach gyflogaeth sicr a fflat ei hun. Mae’n gwneud yn dda iawn ac rydyn ni’n dal i gadw mewn cysylltiad. Y llynedd, fe wnaeth ennill gwobr myfyriwr y flwyddyn yn y coleg am oresgyn rhwystrau yn ei fywyd.
Mae’n ymwneud â chwalu’r mythau am bobl ifanc – dydyn nhw ddim i gyd yn yfed alcohol, yn ysmygu canabis nac yn ymddwyn yn wrthgymdeithasol!

“Mae Llety â Chymorth wir yn gweithio”


Rydw i wedi cael profiad cadarnhaol, ond mae’n cymryd ymdrech ac amser i ddod o hyd i’r cydbwysedd iawn. Mae’n opsiwn llawer gwell i bobl ifanc, sy’n cynnig amgylchedd llawer mwy adeiladol na mathau eraill o lety fel hosteli.

Byddwn i’n annog pobl eraill i’w wneud, cwblhau’r hyfforddiant a chlywed gan ddarparwyr llety â chymorth eraill. Rydw i wir yn credu ynddo. Mae Llety â Chymorth wir yn gweithio.

Fel Peter, allech chi ddarparu llety â chymorth i berson ifanc?


Ydych chi’n byw yng Nghaerffili, Cymru? Beth am gysylltu â Maethu Cymru Caerffili heddiw? Gallwn ni ddarparu rhagor o wybodaeth ac ateb eich cwestiynau.

Ffoniwch 0800 587 5664 a byddwn ni’n cysylltu â chi cyn gynted ag y gallwn ni.

Story Time

Stories From Our Carers

Woman and young girl using computer to make video call

dod yn ofalwr maeth

cysylltwch