blog

Cymwysterau ar gyfer Gofalyddion Maeth

Ydych chi erioed wedi meddwl am gyflawni cymhwyster Iechyd a Gofal Cymdeithasol (plant a phobl ifanc)?

Yma yn Maethu Cymru, Caerffili rydyn ni’n credu mewn datblygiad proffesiynol parhaus a thrwy ehangu eich sgiliau gallwch chi gadw i fyny â datblygiadau sy’n dod i’r amlwg yn gyflym fel gofalydd maeth.

Argymhellodd Gofal Cymdeithasol Cymru y dylai pob Gofalydd Maeth sydd newydd ei gymeradwyo gwblhau Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan fel sylfaen yn y proffesiwn Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Yna gallwch chi symud ymlaen i’r cymhwyster craidd a’r cymhwyster ymarfer lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Plant a Phobl Ifanc.

Gall unrhyw ofalydd maeth ddewis cwblhau’r cymhwyster lefel 3, a fyddai’n eich cymhwyso i weithio ym maes Gofal Cymdeithasol Plant.

Felly, sut alla i ennill Cymhwyster mewn gofal cymdeithasol? (ar gyfer plant a phobl ifanc)


Cam Cyntaf – Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn argymell bod hyn yn cymryd 6 mis i’w gwblhau, ond mae hyn yn fwy hyblyg i ofalyddion maeth oherwydd y galw ar eich amser.

Mae’r Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan ar gyfer gwasanaethau plant yn cynnwys pum canlyniad:

• Egwyddorion a Gwerthoedd mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol

• Iechyd a Lles

• Ymarfer Proffesiynol fel gweithiwr iechyd a gofal cymdeithasol

• Diogelu unigolion

• Iechyd a Diogelwch yn y maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Bydd eich asesydd yn gweithio’n agos gyda’ch gweithiwr cymdeithasol goruchwyliol i’ch cefnogi chi i gyflawni’r Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan. Mae eich Gweithiwr Cymdeithasol goruchwyliol yn llofnodi’r Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan pan fyddan nhw’n fodlon eich bod chi wedi dangos eich dealltwriaeth a’ch ymarfer i gyflawni’r canlyniadau dysgu

Ail Gam – Y Cymhwyster Craidd

Os hoffech chi symud ymlaen i’r cymhwyster ymarfer, bydd angen i chi gyflawni’r cymhwyster craidd. I wneud hyn mae angen i chi gwblhau set o asesiadau yn seiliedig ar yr wybodaeth a gafwyd trwy gwblhau’r Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan. Ar ôl pasio’r asesiadau hyn gallwch gofrestru i gwblhau’r cymhwyster ymarfer.

Trydydd Cam – Y Cymhwyster Ymarfer

Gan weithio gyda’ch rheolwr a’ch asesydd, caiff y cymhwyster ei asesu trwy gyfres o weithgareddau asesu, sy’n cynnwys:

• Set o dasgau strwythuredig, sy’n darparu fframwaith ar gyfer casglu’r dystiolaeth ofynnol ar gyfer unedau.

• Portffolio o dystiolaeth

• Trafodaeth derfynol dan arweiniad asesydd ar ddiwedd y broses asesu.

Os hoffech chi drafod cwblhau’r cymhwyster, cysylltwch â’ch Tîm Maethu Cymru, Caerffili.

 0800 587 5664 Text ‘foster’ to 78866

 fostering@caerphilly.gov.uk

Story Time

Stories From Our Carers

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch