Mae’r tymor arswydus wedi cyrraedd, felly beth am gasglu’ch hoff ellyllon a bwystfilod i gyd at ei gilydd ar gyfer digwyddiadau Calan Gaeaf arswydus yn Ne Cymru?
O ffilmiau tymhorol mewn profiadau sinema unigryw i deithiau ysbrydion a chasglu pwmpenni, mae digon i gladdu’ch dannedd ynddyn nhw y tymor Calan Gaeaf hwn. Edrychwch ar y mathau o ddigwyddiadau y gallwch chi gymryd rhan ynddyn nhw mewn gwahanol fannau o amgylch De Cymru a chynllunio diwrnod allan syfrdanol.
Creu rhywbeth iasol yn Nhŷ Tredegar, Casnewydd.
I ddathlu penwythnos Calan Gaeaf, mae Tŷ Tredegar yn dod â’r gweithdai cerfio pwmpenni yn ôl. Calan Gaeaf yw’r amser perffaith i ddangos eich creadigrwydd trwy bersonoli’ch pwmpen – a fydd yn gwenu, yn arswydus neu’n wirion? Mae Tŷ Tredegar yn darparu popeth sydd ei angen arnoch chi, felly dewch draw ar y diwrnod gyda’ch het artistig ymlaen, yn barod i adael i’ch dychymyg redeg yn wyllt.
£4 y pen. Mae ffioedd mynediad arferol yn berthnasol.
Pryd: Dydd Sadwrn 29 Hydref tan ddydd Llun 31 Hydref 2022
Cadw lle yma: Gweithdy cerfio pwmpenni | Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Haunted Happenings yn nhafarn y Skirrid Mountain Inn, y Fenni
I’r rhai ohonoch chi sy’n caru elfen arswydus go iawn Calan Gaeaf, dyma’r digwyddiad i chi. Mae Haunted Happenings yn cynnal helfa ysbrydion yn nhafarn y Skirrid Mountain Inn, yn y Fenni – sef y dafarn hynaf, a byddai llawer yn dweud y dafarn fwyaf arswydus, yng Nghymru. Gyda hanes yn dyddio’n ôl i Goncwest y Normaniaid, bu dros 182 o ddienyddiadau a dewiniaeth, yn ôl rhai, yn yr adeilad hwn yn ystod ei hanes hir. Bydd yr helfa’n para am saith awr rhwng 8pm a 3am. Bydd drysau’n slamio, sŵn cerdded a hyd yn oed leisiau tawel yn aros amdanoch chi wrth hela ysbrydion yma – ydych chi’n ddigon dewr i fynd i mewn a darganfod ei gyfrinachau?
Ble: Llanfihangel Crucornau, Y Fenni NP7 8DH
Pryd: Dydd Gwener 28 – Dydd Sadwrn 29 Hydref 2022
Cadw lle yma: Skirrid Inn Ghost Hunts, Abergavenny Ghost Hunts (hauntedhappenings.co.uk)
Casglu Pwmpenni yn Fferm Pencoed Fach, Coed Duon
Mae yna lawer o ffermydd ledled Cymru sy’n cynnig casglu pwmpenni y tymor arswydus hwn ac mae’n rhywbeth y mae’r teulu cyfan yn sicr o’i fwynhau. Mae’r fferm organig hon, ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, eisoes yn paratoi pwmpenni. Bydd digonedd yn y caeau a rhai wedi’u casglu ymlaen llaw i chi eu mwynhau.
Ble: Heol y Cefn, Bedwellte, Coed Duon NP12 0BQ
Pryd: Dydd Sadwrn 1 Hydref 2022 – Dydd Gwener 28 Hydref 2022
Dangosiadau Sinema Tymhorol ym Mharc Margam
Os nad yw helfeydd ysbrydion at eich dant, fe allai sinema arswydus Calan Gaeaf fod yn ffordd wych o fwynhau’r tymor brawychus o hyd. Gan ddangos amrywiaeth o ffilmiau Calan Gaeaf – o Goosebumps i Rocky Horror picture show – mae Parc Gwledig Margam, ym Mhort Talbot, yn codi ias yn yr hydref. Mae tocynnau ar werth nawr a bydd y sinema gyrru-i-mewn hon yn agor yn ystod hanner tymor mis Hydref. Bydd y sgrin fawr ym maes parcio East Lodge ac mae tocynnau VIP i barcio yn y ddwy res flaen yn costio £30 gyda’r holl docynnau eraill yn costio £25.
Pryd: Dydd Gwener 28 – Dydd Sadwrn 29 Hydref 2022
Ble: Parc Margam, Port Talbot SA13 2TJ Cadw lle yma: Prynwch docynnau yma