blog

Dysgu a Datblygu ym Maethu Cymru Caerffili

Dysgu a Datblygu ym Maethu Cymru Caerffili

Mae gofalwyr maeth yn hanfodol o ran cadw plant sy’n derbyn gofal yn ddiogel a’u helpu i gyflawni eu potensial. Mae sicrhau eu bod yn gallu manteisio ar ddysgu a datblygu perthnasol yn hanfodol.

Ym Maethu Cymru Caerffili ein nod yw cefnogi a grymuso ein gofalwyr maeth i helpu i greu’r dyfodol disgleiriaf posibl i blant lleol. Rydym yn cymryd yr amser ac yn cynnig yr arbenigedd i helpu i adeiladu ar y pethau sylfaenol hynny, i roi i chi’r holl offer sydd eu hangen arnoch.

Pa ddysgu/hyfforddi y byddaf yn ei dderbyn?

Mae dysgu a thyfu’n rhan hanfodol o’r hyn rydym yn ei gynnig a byddwn yn parhau i’ch helpu chi a’r plant rydych chi’n gofalu amdanynt.

Bydd ein tîm ym Maethu Cymru Caerffili yn rhoi cofnod dysgu personol a chynllun datblygu unigol i chi, i’ch helpu i olrhain eich taith, i fodloni’r gofynion sylfaenol, i gofnodi sgiliau gwerthfawr a throsglwyddadwy ac i nodi anghenion dysgu yn y dyfodol. Bydd y rhain hefyd yn rhoi cipolwg ardderchog o’ch datblygiad personol ac yn eich galluogi i fyfyrio ar eich datblygiad eich hun.

Byddwch yn cael copi o’n Fframwaith Dysgu a Datblygu cynhwysfawr sy’n cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch.  Bydd ein gweithwyr cymdeithasol hefyd yn trafod dysgu a datblygu gyda chi’n rheolaidd.

Yr hyn y byddwch yn ei ddysgu

Byddwch yn dysgu sut rydym yn gweithio gyda’n gilydd, y prosesau sy’n helpu i lywio’r hyn a wnawn, a sut i fod y gorau y gallwch fod. Gyda chyrsiau hyfforddi a chymwysterau, byddwch bob amser yn teimlo eich bod yn gwneud cynnydd.

Pryd y byddwch yn dysgu

Rydym yn hyblyg, ac mae hynny’n cynnwys ein fframwaith dysgu a datblygu. Byddwch yn gallu manteisio ar gyfleoedd dysgu amrywiol a chyfunol ar adegau sy’n addas i chi, gan gynnwys ymchwil, podlediadau, rhaglenni dogfen a dysgu ar-lein yn ogystal â dysgu mwy ffurfiol mewn ystafell ddosbarth. Nid yw’n ymwneud â thicio blwch; mae’n ymwneud â thyfu bob dydd. Mae rhai sgiliau’n gyffredinol; mae rhai yn fwy addas ar gyfer plentyn penodol neu angen penodol. Byddwn yn teilwra cyfleoedd hyfforddi a dysgu i’ch cefnogi, pryd bynnag y bydd angen hynny arnoch.

Gair gan ofalwyr maeth ledled Gwent

“Rwy’n teimlo’n rhan o dîm cyfan sy’n gweithio’n dda gyda’i gilydd.  Mae gennyf gysylltiadau da â’r teulu biolegol, y gweithiwr cymdeithasol a’r ysgol ac rydym i gyd yn canolbwyntio ar y person ifanc.  Mae cyfathrebu a pharch da yn sail i hyn.’

‘Mae ysgol fy mhlentyn maeth a minnau’n cyfathrebu’n wych, rydym bob amser ar yr un dudalen ac mae fy ngweithiwr cymdeithasol maethu’n rhagorol.’

‘Nid wyf byth yn amharod i ffonio’r ysgol a rhannu anawsterau, nid oes byth unrhyw feirniadu, dim ond cefnogaeth.’

‘Mae defnyddio gwasanaethau’n llawer haws nawr nag yr oedd o’r blaen’

‘Gwnaethom siarad gyda’r gweithiwr cymdeithasol bob wythnos yr holl ffordd drwy’r cyfnod clo, roedd hyn yn gefnogaeth enfawr i ni.’

‘Mae ein gweithiwr cymdeithasol cefnogol yn rhagorol, yn gymorth enfawr i ni.’

“Roedd y dosbarthiadau meistr (lles) yn dda iawn, fe wnes i eu mwynhau’n fawr. Roedd cymysgedd o wahanol siaradwyr a chynnwys i’ch atal rhag diflasu”

“Fe wnes i fwynhau’r dosbarth meistr lles, roedd yn ddiddorol iawn”

Story Time

Stories From Our Carers

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch