blog

Pontio i’r ysgol uwchradd – cyngor gan ofalyddion maeth

Pontio i’r ysgol uwchradd – cyngor gan ofalyddion maeth. Mae symud o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd yn adeg gyffrous mewn bywyd, ond, i lawer o blant, gall fod yn ddyfodol brawychus.

Gall ysgol llawer mwy, newydd gynnig mwy o annibyniaeth a byd llawn cyfleoedd, ond gall hefyd olygu athrawon newydd, pynciau newydd ac, o bosibl, grŵp o ffrindiau newydd.

Felly, beth sydd mor wahanol am yr ysgol uwchradd?

  • Dosbarthiadau mwy, o bosibl
  • Amgylchedd ysgol mwy
  • Dim desgiau personol a defnyddio loceri i storio eiddo
  • Athrawon pwnc-benodol
  • Teithio’n annibynnol i’r ysgol
  • Gwaith cartref – mwy o waith a disgwyliadau
  • Yr angen am well sgiliau trefnu a chwrdd â therfynau amser
  • Penderfyniadau am yrfa ar adeg pan na fydd plentyn yn gweld ei gryfderau, o bosibl

Fe wnaethom ni ofyn i’n harbenigwyr, sydd â phrofiad o blant yn pontio o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd, am eu cyngor – dyma’r hyn roedd ganddyn nhw i’w ddweud:

Cynnal cyfeillgarwch a gwneud ffrindiau newydd

Efallai bod eich plentyn wedi mynd trwy’r ysgol gynradd gyda’r un grŵp o blant, ond gall y syniad o wneud ffrindiau newydd fod yn frawychus. Efallai y bydd eich plentyn yn ddigon ffodus bod ei gyd-ddisgyblion hefyd yn mynd i’r un ysgol uwchradd, ond, yn y rhan fwyaf o achosion, bydd yn adnabod dim ond ychydig o blant ar y mwyaf. Mae ymuno â chlybiau a chwaraeon allgyrsiol yn ffordd wych i’ch plentyn wneud ffrindiau newydd â phobl sydd â diddordebau tebyg.

Amserlenni ac annibyniaeth

Yn yr ysgol gynradd, mae amserlenni fel arfer yn cael eu pennu i’ch plentyn gan athro neu gennych chi’ch hun, ond pan fydd yn symud i’r ysgol uwchradd, bydd yr amserlenni’n amrywio o ddydd i ddydd. Bydd eich plentyn yn mynd i wersi gyda phlant ac athrawon gwahanol, a bydd angen i’ch plentyn fod yn gyfrifol am ei waith ei hun.

Rydyn ni’n argymell eich bod chi’n cynnig mwy o gyfleodd i’ch plentyn amrywio ei amserlen a rheoli trefniadau. Bydd yn rhoi cyfle i chi gymryd cam yn ôl a gweld sut mae’n ymdopi tra gallwch chi barhau i helpu mewn modd ymarferol. Paratowch eich hun, a’ch plentyn, trwy annog ffordd o fyw fwy annibynnol. Esboniwch y bydd bywyd ychydig yn wahanol a’i baratoi am hynny.

Gwaith cartref a rheoli amser

Fel sydd wedi’i nodi uchod, bydd angen i’ch plentyn ddysgu sut i reoli ei amser a’i amserlen gwaith cartref. Nid yw tasgau’n cael eu gosod un diwrnod a’u disgwyl nhw’n ôl y diwrnod nesaf mwyach. Bydd terfynau amser amrywiol, ac efallai ni fydd athrawon o bynciau gwahanol yn meddwl am waith cartref pynciau eraill wrth osod eu gwaith cartref eu hunain. Os yw’ch plentyn yn ei chael hi’n anodd ymdopi, efallai gallwch chi ei helpu i lunio rota astudio. Os bydd y tasgau’n mynd yn ormod, holwch a oes rhywun yn yr ysgol y gallwch chi siarad â nhw i gael cyngor. Efallai y gwelwch chi mai rheoli amser yw gwraidd y mater, neu efallai fod gormod o waith yn cael ei osod.

Story Time

Stories From Our Carers

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch