blog

Pythefnos Gofal Maeth: Beth fyddwn ni’n ei wneud?

Pythefnos Gofal Maeth: Beth fyddwn ni’n ei wneud?

Mynnwch wybod beth fydd Maethu Cymru Caerffili yn ei wneud yn ystod Pythefnos Gofal Maeth 2022

Pythefnos Gofal Maeth (9–22 Mai 2022) yw’r ymgyrch fwyaf yn y Deyrnas Unedig o ran codi ymwybyddiaeth o ofal maeth, sy’n cael ei chynnal gan yr elusen faethu flaenllaw, The Fostering Network. Mae’r ymgyrch yn arddangos ymrwymiad, angerdd ac ymroddiad gofalwyr maeth. Mae hi hefyd yn helpu gwasanaethau maethu i dynnu sylw at yr angen am ragor o ofalwyr maeth.

Y thema eleni yw #CymunedauMaethu i ddathlu cryfder a chydnerthedd cymunedau maethu, a phopeth maen nhw’n ei wneud i sicrhau bod plant yn cael gofal diogel ac yn cael cymorth i ffynnu.

Sut bydd Maethu Cymru Caerffili yn dathlu?

Bywiogi’r Gymuned

Ym mis Mai eleni, bydd Maethu Cymru Caerffili yn rhoi blodyn yr haul wrth wraidd y dathliadau ar gyfer Pythefnos Gofal Maeth. Bydd y tîm maethu yn dosbarthu 5,000 o amlenni llawn hadau blodyn yr haul i helpu bywiogi’r gymuned. Mae’r tîm yn gofyn i drigolion blannu’r hadau yn eu gerddi a phostio’r cynnydd ar-lein. Am ragor o wybodaeth, ewch i: Caerphilly County Borough Council | Facebook

Nod yr ymgyrch yw taflu goleuni ar y ffyrdd niferus y mae pobl yn y gymuned faethu wedi helpu ei gilydd yn ystod y pandemig COVID-19 – a thynnu sylw at yr angen am ragor o ofalwyr maeth ymroddedig. Mae’r thema blodyn yr haul yn cynrychioli sut y gall gofalwyr maeth feithrin plant er mwyn iddyn nhw allu ffynnu a thyfu i gyrraedd eu llawn botensial.

Cystadleuaeth ‘Dylunio Blodyn yr Haul’

Mae Maethu Cymru Caerffili hefyd yn cynnal Cystadleuaeth ‘Dylunio Blodyn yr Haul’ ac yn gofyn i bobl ifanc yn y gymuned leol gymryd rhan yn greadigol. Rhagor o wybodaeth: fcf22 sunflower design competition – foster wales caerphilly

Mae’r gystadleuaeth ar agor i holl ysgolion cynradd ac iau Caerffili.

Dyma’r holl wybodaeth sydd ei hangen a sut i gyflwyno’ch dyluniad.

  • Grŵp oedran 4–11 oed
  • Gwobr ar ffurf taleb i’r rhai sy’n dod yn gyntaf, yn ail ac yn drydydd
  • Llun i’w ddylunio ar ddalen A4 wedi’i ddarparu
  • Gallwch chi fod mor greadigol ag y dymunwch, boed hynny gyda phaent, creon, pensil, pen, inc, neu ben ffelt, mae modd defnyddio unrhyw ddeunyddiau ar gyfer y dyluniad.
  • Rhaid nodi’r wybodaeth ganlynol yn glir ar gefn pob llun: enw llawn, oedran, grŵp blwyddyn, enw’r ysgol
  • Dylai’r lluniau gael eu hanfon i JONESE10@CAERPHILLY.GOV.UK

Dyddiad cau: 22 Mai 2022

Dathlu ein Gofalwyr Maeth

I ddiolch i’r gofalwyr maeth gwych a agorodd eu calon a’u cartref i ofalu am blant a phobl ifanc yng Nghaerffili, mae’r tîm maethu wedi trefnu digwyddiadau anhygoel yn ystod Pythefnos Gofal Maeth – gan gynnwys boreau coffi a theithiau cerdded lles yn Ffordd Goedwig Cwmcarn, a diwrnod dathlu i ofalwyr maeth gyda the prynhawn ym Maenordy Llancaiach Fawr. Bydd rhywbeth at ddant pawb, gan ddod â’r gymuned faethu at ei gilydd. Mae Maethu Cymru Caerffili eisiau annog rhagor o bobl i ddod yn ofalwyr maeth ar gyfer yr awdurdod lleol fel y gall plant aros yn eu hardal leol, yn agos at eu ffrindiau a’u teulu, ac aros yn eu hysgol lle bynnag y bo modd. Gall hyn helpu plant a phobl ifanc i gadw eu hymdeimlad o hunaniaeth yn ystod cyfnod o drawsnewid. Am ragor o wybodaeth, ewch i: Fostering in Caerphilly | Foster Wales Caerphilly

Story Time

Stories From Our Carers

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch